Digwyddiad:Prosiect Rhuban Rhudd
Ymunwch â ni i fwynhau Project Rhuban Rhudd - profiad pwerus sy'n cyfuno cerddoriaeth fyw, celf weledol a straeon personol er mwyn trafod HIV, hunaniaeth, a gwytnwch yng Nghymru heddiw.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar hanes a phrofiadau bywyd cwiar, ac yn cynnwys cerddoriaeth wedi'i gomisiynu'n arbennig gan yr artist Awstralo-Gymreig Niamh Jacqueline O’Donnell a chelf bortreadol gan yr artist gweledol Darren Varnam*. Bydd trafodaeth banel gydag artistiaid, darparwyr gofal iechyd a lleisiau cymunedol yn gyfle i sgwrsio a myfyrio, ac yn cloi gyda pherfformiad gan driawd piano, sacsoffon a feiolin.
Caiff Project Rhuban Rhudd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Fast Track, y GIG, cynghorau lleol, ac ymgyrchwyr HIV blaenllaw er mwyn gwahodd cynulleidfaoedd i ystyried sut all celf herio rhagfarn, dathlu dewrder, a dychmygu dyfodol llawn gobaith.
Mynediad am ddim – Angen archebu
Hyd: tua 75 munud
Argymhelliad oed: 14+
Rhybudd cynnwys: Bydd y digwyddiad yn trafod HIV/AIDS, iechyd meddwl, hunaniaeth cwiar, a galar.
Hygyrchedd: Mae mynediad i gadeiriau olwyn. Cysylltwch ymlaen llaw os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
14 June 2025 | Sold Out |