Digwyddiad:Songs of the Skies yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Cerddoriaeth a Sgwrs ar gyfer Diwrnod Amgylchedd y Byd  

I nodi Diwrnod Amgylchedd y Byd, rydyn ni’n codi i’r entrychion ar gyfer digwyddiad cyfareddol lle mae cerddoriaeth gyfoes yn cwrdd â rhyfeddodau byd natur. Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerydd i fwynhau cyfres o berfformiadau hudolus, sgyrsiau sy’n procio’r meddwl, a gweithdai rhyngweithiol sy’n dathlu ein planed a’r creaduriaid sy’n ei galw’n gartref. Mae’r diwrnod yn cael ei ysbrydoli gan gân yr adar a theithiau anhygoel adar ymfudol. Mae’r holl berfformiadau a’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim. Dewch i dreulio’r diwrnod cyfan gyda ni, neu alw i mewn a mas – chi biau’r dewis.

I arbed eich tocynnau, neu am wybodaeth llawn ar fanylion y rhaglen, ymwelwch a Sinfonia Cymru.

Gwybodaeth

5 Mehefin 2025, O 12.15yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau