Digwyddiad:Gweithdy Teulu - LEGO® Build the Change: Gwarchod y Moroedd
Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn anifeiliaid sy'n byw dan y môr?
Ydych chi am warchod byd natur?
Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn gwaith biolegydd morol?
Ydych chi'n caru adeiladu gyda LEGO®?
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i adeiladu’r newid! Mewn gweithdy ymarferol byddwch chi’n dysgu am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt morol yng Nghymru a thu hwnt, a'r peryglon sy'n ei wynebu drwy ddefnyddio sbesimenau amgueddfa a gwaith ymchwil gwyddonwyr amgueddfa.
Byddan nhw wedyn yn defnyddio'u dychymyg a briciau LEGO® i ddylunio, adeiladu a rhannu datrysiadau irai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu cynefinoedd morol, gan gynnwys llygredd a newid hinsawdd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Nifer cyfyngedig o docynnau. Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.
- Bydd y gweithdy hon yn ddwyieithog.
- Oedran addasrwydd: 7+
- Bydd y sesiwn yn para tua awr.
- Rhaid i blant gael eu goruchwylio bob amser.
Mae'r gweithgaredd yn bosib diolch i bartneriaeth rhwng yr Amgueddfa Hanes Natur a'r LEGO Group, fel rhan o'u rhaglen Build the Change.
Rhaglen gynaliadwy yw hon sy'n rhoi llais i blant a chyfle iddyn nhw fynegi eu dyhead a'u syniadau am ddyfodol gwell. LEGO, the LEGO logo, the Minifigure, and the Brick and Knob configuration are trademarks and copyrights of the LEGO Group. ©2025 The LEGO Group. All rights reserved.
Gwybodaeth
Tocynnau
29 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
Sold Out | |
Sold Out |
30 May 2025
Amseroedd ar gael | |
---|---|
Sold Out | |
Sold Out |