Arddangosfa:Sophie Mak-Schram ac artistiaid eraill: Dyfal Droi y Garreg
Beth yw grym? A phwy sy'n cadw'r grym hwnnw?
Yn 2023–2025, archwiliodd yr artist Sophie Mak-Schram sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio o fewn Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.
Trwy weithio gydag ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid a staff amgueddfa – datblygodd Sophie 'offer' cydweithio sy'n herio strwythurau grym ac yn eu hailddychmygu.
Mae'r 'offer' cydweithio yn amrywio o dempledi mynediad a phrosesau gwaith newydd i uwch-seinydd wedi'i addasu a darnau cerameg, gan greu cyfleoedd i ddysgu ar y cyd a chyd-greu mewn ffordd decach.
Mae'r arddangosfa ddwy ran Dyfal Droi y Garreg, yn canolbwyntio ar gategoreiddio (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) a ffurfiau ymgynnull (Chapter).
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r arddangosfa'n ystyried sut mae gwrthrychau yn cael eu casglu a'u hadnabod, llais pwy sy'n cael ei glywed yn siarad am y gwrthrychau hyn, a sut i dorri ar draws rhai o reolau cudd yr amgueddfa.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys rhai o'r offerynnau ochr yn ochr ag eitemau allweddol o gasgliadau'r amgueddfa, gan gynnwys y Casgliad Allestyn Ysgolion a'r coridor Celf Asiaidd. Mae'n dangos sut mae pŵer yn siapio'r hyn sy'n cael ei weld, ei gadw a'i ddehongli.
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 14 Mehefin ymlaen a Chanolfan Gelfyddydau Chapter o 13 Medi ymlaen i ymgysylltu â'r arddangosfa, cyffwrdd a rhoi tro ar rai agweddau o'r project ac archwilio'r arddangosfeydd.
Safbwynt(iau)
Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio creu newid sylweddol yn y ffordd mae'r sector treftadaeth a chelfyddydau gweledol yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig a diwylliannol ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r cywaith i wireddu amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Thanks
Roedd y cydweithwyr a'r cyfranwyr canlynol yn rhan o'r project hwn:
George H. Wale, Rubie, Kelly Lloyd, Katherine Agyemaa Agard, Chris Adam, Osian Grifford, Brynn Alred, Bianca Ali, Aliyy Azad Malik, Mathew Salley, Amira Hayat, John Thomas, Polly Thomas-Colquhoun, Joseff Llewellyn, Frances Abigail Bolley, Parham Ghalamdar, San Ramos, Sonia Odedra, Salah Baba Rasool, Fahadi Mukulu, Umulkhayr Mohamed, Chantelle Lue, Sophie Lindsey, Rosey Brown, Oska VonRuhland, Meg Shergold, Silvia Dimitrova, Lia Parry ac Isimbi Sebageni.
Gyda diolch am fewnbwn a chefnogaeth strwythurol gan:
Steph Burge, Carys Tudor, Nick Thornton, Andrew Renton, Dave Enright, Elizabeth Walker, Elen Philips, Mark Etheridge, Amiina Mohamoud, Nia Williams, Mared Maggs, Kate Breeze, Liam O’Connor ac Owain Rhys yn Amgueddfa Cymru.
Sim Panaser yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.
Esyllt Lewis am y cyfieithu.
Rose Nordin am y dylunio.
Rashayla Marie Brown a Genji Amino am gyngor ar adegau tyngedfennol.
Gyda diolch i:
Keith Daisy yng Ngholeg Reading a Beatrice Galletley a Baz James yn Ysgol Gelf Reading.
Chloe Hunt a Lle Creu yn Llyfrgelloedd Bro Morgannwg.
Eugene Capper a Fitzhammon Lane Studios.
Fablab Cardiff.
Tîm Amgueddfa Cymru am osod yr arddangosfa.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Mwy o gynnwys
Ymweld
Oriau Agor
Oriau Agor y Gaeaf: O ddydd Mawrth 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 13 Chwefror 2026, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.
Orielau yn cau am 3.34pm.
Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd