Digwyddiad:Amser Stori gyda Babis Bach Babies

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
Amser Stori gyda Babis Bach Babies
 
"Unwaith roedd yna pysgodyn a’i enw oedd Tiddler."
 
Plymiwch i mewn i'r moroedd mawr yng nghwmni Babis Bach Babies am ein amser stori nesaf - Tiddler gan Julia Donaldson!
 
Ymunwch â ni, Tiddler, a'i ddychymyg mawr wrth iddo freuddwydio straeon mawr bob dydd i ddweud wrth ei gyd-ddisgyblion pam ei fod bob amser yn hwyr i'r ysgol. Tan un diwrnod, ar ôl gormod o freuddwydio, aeth ar goll a dyma fe’n rhan o’i stori fawr. A fydd yn dod o hyd i'w ffordd adref?
 
Sesiwn ddwyieithog gydag amser stori, cerddoriaeth telyn fyw, gwisgo lan, canu a chwarae offerynnau. Dere gyda ni ar siwrne hudolus yr Awst hon!
 
Mae’r sesiwn yma’n addas i blant o bob oed.

Gwybodaeth

8 Awst 2025, 10:30yb; 12:30yp: 2:30yp
Pris £12.50 (Tocyn Oedolyn a Phlentyn); £6.00 (Tocyn i Oedolyn Ychwanegol)
Addasrwydd Teuluoedd
Archebu lle Nawr ar Werth!
Logo Babis Bach Babies - amlinell o ben plentyn yn du a gwyn
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau