Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
*** Hysbysiad i Ymwelwyr: Sylwch fod yr arddangosfa hon yn cynnwys cynnwys a all beri gofid neu sbarduno ymateb emosiynol i rai unigolion.***
Mae prif wobr gelf gyfoes ryngwladol y DU yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer ei hunfed arddangosfa ar ddeg, fydd yn cael ei rhannu eleni gyda phedwar safle arall ar draws Cymru.
Bydd enillydd gwobr fawreddog Artes Mundi o £40,000 – gwobr gelf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr arddangosfa ym mis Ionawr 2026. Dewch i weld gweithiau celf yr arddangosfa drawiadol hon.
Mae chwe artist wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Artes Mundi 2025:
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd