Hip Hop: Stori Cymru

Arddangosfa:Hip Hop: Stori Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Gwybodaeth

19 Gorffennaf 2025 – 22 Chwefror 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
DJ Jaffa wrth y decs yn Roxe Jam, Caerdydd, 2010.

DJ Jaffa wrth y decs yn Roxe Jam, Caerdydd, 2010.
© Dan Green
dangreen.net @dangreen

B-Bois dienw ym Mlaenau Ffestiniog, 1987. 

B-Bois dienw ym Mlaenau Ffestiniog, 1987. 
© Llun gan Mark McNulty 

 

Y rapiwr YazMean yn perfformio mewn digwyddiad Ladies of Rage ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn The Moon, Caerdydd, 2019. 

Y rapiwr YazMean yn perfformio mewn digwyddiad Ladies of Rage ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn The Moon, Caerdydd, 2019. 
© Amy Farrer 
@amyfarrerphotography 

Sut mae Hip Hop yn siapio diwylliant Cymru?

Dere ar daith drwy ddiwylliant Hip Hop yng Nghymru.

Mae Hip Hop: Stori Cymru yn arddangosfa ddeinamig sy’n dathlu esblygiad y genre a’r gelfyddyd yng Nghymru. Dewch i glywed am y bîts, y brecio a’r ffasiwn trwy straeon y bobl sydd wedi siapio Hip Hop drwy’r degawdau.

Blas ar y Diwylliant

Dere i brofi Hip Hop yng Nghymru – ddoe, heddiw ac yfory:

  • Darganfod byd lliwgar celf stryd
  • Tyrcha trwy’r blychau o finyl sy wedi diffinio ein sîn Hip Hop.

Dathlu Cymuned Hip Hop 

Mae Hip Hop: Stori Cymru yn fwy nag arddangosfa – dyma wahoddiad i gymryd rhan, meddwl a theimlo curiad calon cymuned Hip Hop. Trwy’r artistiaid, y dawnswyr a’r cymunedau sy’n rhan o sîn Hip Hop fywiog Cymru i’r brwydrau, digwyddiadau ac ysbryd o undod, mae cymuned Hip Hop Cymru yn fyw ac yn iach.

Tocynnau

Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac gallwch archebu tocynnau cyn ymweld. Gwnewch gyfraniad go iawn at ein gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru gan roi beth allwch chi – mae eich rhoddion yn ein helpu i sicrhau y gall Amgueddfa Cymru barhau i gynnal arddangosfeydd ysbrydoledig.

Gwrandewch ar ein rhestr chwarae arbennig ar Spotify…

Cefnogir yr arddangosfa gan gefnogwyr hael People's Postcode Lottery.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau