Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ - Elin Rees
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 30 Mai, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Yn wreiddiol o Benarth, mae Elin Rees yn gyfeilydd llawrydd, yn ddatgeinydd, ac yn organydd yn Eglwys Blwyf Bury. Ar ôl astudio yn Ysgol Gerdd Purcell yn 16 oed, aeth i Goleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr (RNCM), gan ennill gradd BMus (Anrh.) ac yna MMus mewn Perfformio Piano Unigol. Pan oedd yn yr RNCM, roedd Elin yn Ysgolor Organ Ymddiriedolaeth Pilling yn Eglwys Santes Ann, Manceinion.
O 2014 i 2016, roedd Elin yn Gymrawd Iau mewn Cyfeilio yn yr RNCM, lle mae’n parhau i weithio fel cyfeilydd llawrydd, gan gyfeilio i lawer o brif diwtoriaid astudio’r Coleg, yn benodol yn yr Ysgol Astudiaethau Lleisiol.
Fel organydd mae galw mawr am ei doniau fel cyfeilydd gan gynnwys i Gorau Siambr Alteri, Kantos a Manceinion. Mae hi wedi cyfeilio i gorau eglwysig gwadd amrywiol ar gyfer gwasanaethau mewn eglwysi cadeiriol ledled y wlad, gan gynnwys yng Nghaergaint, Caerloyw a Durham, yn ogystal â Chadeirlan Caerefrog. Mae hi wedi perfformio yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion ac wedi rhoi datganiadau yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Ffotograff o Organydd Elin Rees
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd