Digwyddiad:Disgo Tawel
Motel Nights mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cyflwyno'r DISGO TAWEL.
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth i rai o DJs gorau’r ddinas frwydro am eich teyrngarwch telynegol! Canwch i'ch hoff glasuron parti o dan gromen un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas.
DIGWYDDIAD I'R TEULU (6yn - 8yn)
Rydym yn cynghori bod pawb sy'n mynychu’r parti mini yn 5+ ac yng nghwmni oedolyn!
DIGWYDDIAD I OEDOLION YN UNIG (9yn - 12yb)
Mae hwn yn ddigwyddiad 18+ yn unig
Bydd gwesteion yn mwynhau:
- Tri DJ yn chwarae amrywiaeth o genres
- Profiad disgo tawel unigryw mewn lleoliad eiconig
- Bar di-gyswllt a DI-WASTRAFF Motel Nights yn gweini amrywiaeth o ddiodydd.
**BETH YW Disgo Tawel?**
Byddwch yn derbyn se o glustffonau ar fynediad, ond nid ydynt yn rhai cyffredin – mae gan y rhain DAIR sianel! Drwy ddefnyddio’r switsh, byddwch yn cael dewis pwy rydych chi'n gwrando arno wrth i'n DJs fynd â chi ar daith gerddorol rhwng genres! PWY FYDDWCH CHI'N EI DDEWIS?
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd