Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 27 Mehefin, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Ganed John yn Brentwood, Caerwysg. Cafodd ei fagu ar aelwyd lle roedd chwaeth gerddorol eclectig yn arferol: roedd ei dad, a oedd yn gerddor amatur hunanddysgedig i raddau helaeth, yn mwynhau (ac yn rhoi cynnig ar chwarae) unrhyw fath o gerddoriaeth bron, o Bach i’r Beatles. Yn ei arddegau, bu John yn ffodus i gael cynnig lle wedi’i ariannu gan yr awdurdod lleol yn Adran Iau Sadwrn Coleg Cerdd y Drindod, gan fynd ymlaen i astudio Ffiseg a Cherddoriaeth yng Nghaerdydd – lle mae’n byw ers hynny.
Mae John yn mwynhau ystod eang o weithgareddau cerddorol ac mae’n arbennig o brysur fel cyfeilydd, organydd a chwaraewr continwo. Mae wedi bod yn ymwneud â cherddoriaeth eglwysig erioed, ac ar hyn o bryd mae’n organydd yn Eglwys yr Holl Saint, Penarth, tra hefyd yn rhedeg y grŵp cerdd yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Beulah yn Rhiwbeina. Yn ogystal, mae John yn Therapydd Cerdd – ar ôl hyfforddi ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste – ac ers 2011 mae wedi gweithio’n rhan amser yn Nhîm Cymunedol Anableddau Dysgu Bryste.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
TOCYNNAU
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd