Sgwrs:Portread o Brydain? ⁠Myfyrdodau Personol a Phroffesiynol ar Picture Post ac Archif Hulton

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am sgwrs ar arwyddocâd a gwaddol y cylchgrawn ffotograffiaeth, Picture Post. Wedi’i lansio ym 1938, bu Picture Post yn cofnodi newidiadau gwleidyddol a diwylliannol dramatig. Roedd yn gwerthu 11.7 miliwn o gopïau ar ei anterth, ac i’w weld mewn cartrefi a swyddfeydd ledled Prydain. Byddwn yn cael cwmni panel o arbenigwyr yn cynnwys curaduron, ffotograffwyr ac academyddion sydd wedi’u dylanwadu gan y cylchgrawn. Ar y panel bydd:


  • David Hurn, Ffotograffydd
    Amanda Hopkinson, Ysgolhaig
    Melanie Llewellyn, Curadur gydag Archif Hulton
    Daniel Meadows, Ffotograffydd


Trefnir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â  Chanolfan Hanes Cyfryngau Tom Hopkinson, Prifysgol Caerdydd. Mae’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â’r arddangosfa Picture Post: Eicon o’r Ugeinfed Ganrif (24 Mai–9 Tachwedd 2025), sy’n cynnwys y gweithdy ymchwil ‘Picture Post: Gwreiddiau, Hanes a Gwaddol Ffoto-gylchgrawn’, a gynhelir ym Mhrifysol Caerdydd ar 13 Mehefin (9am–5.30pm). Cliciwch yma i weld y rhaglen ar gyfer digwyddiad Prifysgol Caerdydd, ac i archebu tocyn am ddim.

 

Gwybodaeth Bwysig

Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.

Gwybodaeth

12 Mehefin 2025, 2.30pm - 4.30pm
Pris Talwch beth allwch chi
Addasrwydd 12+

© Haywood Magee/Picture Post/Hulton Archive/Getty Images

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau