Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am brynhawn o weithgareddau i ddathlu agoriad Dyfal Droi y Garreg.
Rhaglen:
Bydd Rubie a George, dau o’r artistiaid a weithiodd gyda Sophie yn rhannu perfformiad gan ddefnyddio offer o’r arddangosfa. Bydd yn cychwyn yn y Brif Neuadd ac yna’n symud i’r orielau.
Cyfle i gwrdd ag un o’r artistiaid a gydweithiodd â Sophie, naill ai aelod o staff Amgueddfa Cymru neu un o’r artistiaid. Byddant yn mynd â chi ar daith fer o’r Amgueddfa gan rannu eu profiad o fod yn rhan o dîm Dyfal Droi y Garreg a dangos rhai o'r gweithiau celf a gwrthrychau sy’n rhan o’r arddangosfa.
Archebwch le ar y diwrnod wrth y ddesg groeso. Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Perfformiad gan rai o’r artistiaid a gyfrannodd at y project yn Orielau Celf y Bloc Canolog.
Bydd Rubie a George, dau o’r artistiaid a weithiodd gyda Sophie, yn cloi’r dathliad trwy rannu perfformiad gan ddefnyddio offer o’r arddangosfa. Bydd yn cychwyn yn yr orielau ac yna’n symud i’r Brif Neuadd.
Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal ym mamiaith yr artistiaid a churaduron, sef Saesneg
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd