Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Fel rhan o raglen ddigwyddiadau arddangosfa Picture Post: Eicon o’r Ugeinfed Ganrif, rydym yn falch o groesawu’r awdur a’r golygydd Owen Hatherley i sôn am ei lyfr diweddaraf, The Alienation Effect (Penguin, 2025).
Mae’r llyfr yn adrodd hanes artistiaid a deallusion o Ganolbarth Ewrop a’u dylanwad ar fywyd cyhoeddus rhwng y 1930au a’r 1970au, gan gynnwys golygydd cyntaf Picture Post, Stefan Lorant.
Cynhelir y sgwrs yn yr oriel ffotograffiaeth, gyda sesiwn lofnodi i ddilyn.
Mae Owen Hatherley yn awdur llawrydd, sy’n gweithio yn bennaf i’r Architectural Review, Jacobin, London Review of Books, Sidecar a Tribune. Mae’n awdur sawl llyfr ar estheteg a gwleidyddiaeth, yn cynnwys Militant Modernism (Zer0, 2009), A Guide to the New Ruins of Great Britain (Verso, 2010), Landscapes of Communism (Penguin, 2015), Red Metropolis (Repeater, 2020) a Modern Buildings in Britain – a Gazetteer (Penguin, 2022).
Gwybodaeth Bwysig
Kurt Hutton/Picture Post/Hulton Archive/Getty Images
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd