Digwyddiad:Amgueddfa Dros Nos: Deinosoriaid

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Dewch am noson fythgofiadwy yn yr Amgueddfa – cewch ddarganfod beth sy’n digwydd wedi iddi nosi ac aros dros nos. 

 

Dyma fydd yn digwydd: 

- Taith dan olau fflachlamp i archwilio Cymru fel yr oedd 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd deinosoriaid yn deyrn. 

- Cyfarfod deinosoriaid cyfeillgar mewn sioe i’w chofio, perffaith ar gyfer y teulu cyfan. 

- Gweithdai crefft – wedi’u hysbrydoli gan ffosilau, olion traed ac esgyrn o gasgliadau’r Amgueddfa⁠. 

- Cwtsho mewn a gwylio ffilm yn ein theatr fawreddog, y Reardon Smith. 

- Gosod eich sach gysgu reit ar bwys ein Mamoth gan edrych i fyny ar y gromen fawr... a breuddwydio am wlad y deinosoriaid! 

Neu, dewiswch fod yn VIP a chysgu'n braf yn ein horielau Hanes Natur ac Esblygiad Cymru. Brysiwch, mae llefydd yn brin! 

Yn y bore bydd pawb yn deffro gyda'r wawr am frecwast cyn ymuno â dosbarth yoga i'r teulu cyfan gyda'r hyfryd Eleri Morgan. Dyma'r dechrau perffaith i'r diwrnod. 

Cewch eich traed yn rhydd yn orielau'r Amgueddfa cyn i'r torfeydd gyrraedd, cyn dychwelyd i'r 21ain ganrif a bywyd bob dydd.

Am rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Canllaw Goroesi Dros Nos cyn archebu tocynnau!

Nifer gyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Mae'r digwyddiad hwn yn berffaith i blant 6-12 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn gyda thocyn. Ni ellir ad-dalu tocynnau. 

 

 

Pris tocyn:  

Prif Neuadd: Plentyn £75 | Oedolyn £75 

Orielau: Plentyn £80 | Oedolyn £80 

Llysysydd VIP: Plentyn £95 | Oedolyn £95 

Cigysydd VIP: Plentyn £95 | Oedolyn £95 

 

Gyda chefnogaeth chwaraewyr y People’s Postcode Lottery 

Gwybodaeth

7 a 8 Mawrth 2026
Pris Tocynnau o £75.00 y person
Addasrwydd Teuluoedd
Mae dau o blant yn gwisgo gwisg un darn deinosor, un yn wyrdd ar llall yn las, mae'n nhw'n edrych mewn syfrdan o'u blaenau, mae un yn dal fflacholau, yn y cefndir mae sgerbwd deinosor
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau