Digwyddiad:Amser Stori gyda Babis Bach Babies
Un noson o eira, mae plentyn y Gryffalo yn crwydro i’r coed i chwilio am y Llygoden Fawr Drwg…
Ymunwch â ni y Nadolig hon wrth i ni deithio drwy'r coed tywyll dwfn, gan gwrdd â rhai wynebau cyfarwydd ar hyd y ffordd.
Sesiwn ddwyieithog stori rhyngweithiol, cerddoriaeth telyn fyw, gwisgo lan, canu a chwarae offerynnau. Mae'r sesiwn wedi'i anelu at fabis a phlant lan at 5 mlwydd oed ond mae plant hŷn (ac oedolion!) yn mwynhau hefyd.
Mae Babis Bach Babies yn cyfuno stori ryngweithiol gyda cherddoriaeth fyw gan gerddorion proffesiynol. Mae’r sesiynau yn cefnogi addysg y blynyddoedd cynnar drwy annog datblygiad iaith yn Gymraeg a Saesneg, yn cyflwyno themâu perthnasol drwy symudiad a chân, ac yn meithrin hyder drwy gymryd rhan.
Gwybodaeth Bwysig:
Mae’r sesiwn yn addas i fabis o unrhyw oed hyd at 5.
Tocynnau: £12.50 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn. £6 ar gyfer plant/oedolion ychwanegol. Gallwch brynu tocynnau ychwanegol unwaith bydd y prif docyn yn y fasged siopa ar-lein.
Nifer cyfyngedig o docynnau. Ni ellir cynnig ad-dalidau yn anffodus.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd