Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ - Aaron Shilson
Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 29 Awst, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.
Mae Aaron Shilson wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ers mis Medi 2021, lle mae ei ddyletswyddau’n cynnwys cyfeilio i gôr y gadeirlan yn eu hamserlen brysur o wasanaethau canu, recordiadau a darllediadau, gan gynnwys yr Offeren Canol Nos a ddarlledwyd yn fyw ar BBC Radio Wales, ac ymweliad EF Brenin Siarl III â Llandaf ym mis Medi 2022 a ddarlledwyd yn rhyngwladol ar y teledu. Mae ei ddyletswyddau hefyd yn ymestyn i gynorthwyo â gwaith gweinyddu a chyfarwyddo rhannau eraill o’r adran gerdd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Majestas Consort, sef côr gwirfoddol y gadeirlan.
Cyn symud i Landaf, roedd Aaron yn gweithio yn Eglwys Gadeiriol Gatholig y Santes Anne yn Leeds, Eglwys Gadeiriol Manceinion, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yn fwyaf diweddar yn Eglwys Gadeiriol Ely fel Organydd Cynorthwyol i’r Côr Merched, lle bu’n cyd-deithio â nhw ar gyfer gwasanaethau, teithiau, recordiadau a darllediadau byw o dan gyfarwyddyd Sarah MacDonald. Rhwng 2018 a 2019 bu hefyd yn Organydd Cynorthwyol yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt, gan gyfeilio i’w recordiad o weithiau gan Ben Parry ac ymuno â’r côr ar eu taith o amgylch gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, a oedd yn cynnwys gwasanaethau a chyngherddau yn Eglwys St Thomas, Fifth Avenue, Efrog Newydd, Eglwys Gadeiriol Sant Ioan y Dwyfol, ac Eglwys Gadeiriol Genedlaethol Washington.
Ymgymerodd Aaron ag astudiaethau israddedig yng Ngholeg Cerdd Leeds (Conservatoire Leeds bellach). Ar ôl graddio symudodd i Fanceinion i barhau â’i astudiaethau yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr (RNCM). Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, cyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth Organ flynyddol ddwywaith, a derbyniodd wobrau Frederick Lunt a Meadowcroft ar yr Organ. Mae’n gymrawd i Goleg Brenhinol yr Organyddion (RCO).
Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol.
Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).
Organydd Aaron Shilson
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd