Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ - Stephen Moore

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 26 Medi, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Stephen Moore yw Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac ers 2016 mae wedi bod yn goruchwylio holl ddarpariaeth gerddorol adran brysur sy’n darparu saith gwasanaeth canu yr wythnos. Yn Llandaf mae’n cyfarwyddo Corau’r Gadeirlan mewn gwasanaethau corawl wythnosol, cyngherddau, darllediadau a theithiau. O dan ei gyfarwyddyd, mae’r côr wedi ymddangos yn aml mewn darllediadau byw ar deledu a radio, yn fwyaf nodedig ar gyfer gwasanaeth ym mhresenoldeb EF Brenin Siarl III a’r Frenhines Camilla ym mis Medi 2022, a ddarlledwyd yn fyw ledled y byd. Mae Stephen hefyd wedi ymddangos ar y teledu fel arweinydd neu organydd, yn fwyaf diweddar ar gyfer Songs of Praise ar Sul y Pasg 2021 a Diwrnod Nadolig 2022. 

Cwblhaodd Stephen ei astudiaethau israddedig yng Ngholeg Cerdd y Drindod, gydag organ yn brif astudiaeth, cyn graddio yn 2008 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn perfformio. Enillodd fedal y coleg am y marc uchaf yn ei flwyddyn am astudio allweddellau ynghyd â’r wobr am arwain. Tra roedd yn y Drindod astudiodd gyda William WhiteheadColm Carey ac enillodd Wobr Organ Cardnell ddwywaith am berfformiad rhagorol. Mae’n Gymrawd arobryn o Goleg Brenhinol yr Organyddion ac yn Gymrawd o Goleg y Drindod Llundain. 

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

TOCYNNAU

Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Gwybodaeth

26 Medi 2025, 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Ffotograff o organydd Stephen Moore

Organydd Stephen Moore

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau