Digwyddiad:Datganiad ar yr Organ - David Geoffrey Thomas

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 28 Tachwedd, am gyngerdd mewn cyfres o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Ganed David Geoffrey Thomas yn Llanelli, ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan ennill gwobrau am arwain a chanu’r organ.

Mae’n organydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn gerddor proffesiynol llawrydd. Fel sylfaenydd a Chyfarwyddwr ‘Cantores Landavenses’, sef grŵp lled-broffesiynol o gantorion, mae wedi arwain yng Nghadeirlannau Caerwrangon, Caerwysg, Salisbury, Ely, Wells, Truro a Sant Paul yn ogystal ag Abaty Westminster.

Yn ogystal, mae David wedi cyfeilio i gorau ar yr organ a’r piano ledled Prydain ac yn Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Sbaen, Awstralia, Seland Newydd, Tsieina, yr Eidal, Awstria, Malta, Gwlad Belg, Sweden a’r Almaen.

Bu David yn addysgu am flynyddoedd lawer yn Ysgol a Choleg Chweched Dosbarth Howell’s a bu’n diwtor yng Ngholeg Diwinyddol Sant Michael a’r Associated Board of the Royal Schools of Music. Mae wedi cynnal ymchwil i hanes, repertoire, perfformio ac arferion addysgu’r organ ac wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion cerdd academaidd. Mae’n Gyn-lywydd Cymdeithas Organyddion De Ddwyrain Cymru, yn gyfeilydd Côr Polyffonig Caerdydd, ac mae galw mawr amdano fel cyfeilydd ac organydd i gorau ac unawdwyr ar draws de Cymru ac fel datganwr organ. 

Mae wedi canu’r organ ar gyfer sawl recordiad CD ac wedi perfformio ar raglenni di-ri ar radio, theledu a ffilm. Mae darlledu wedi chwarae rhan fawr ym mywyd David. Ar ôl dechrau ei yrfa ddarlledu fel Cyhoeddwr gyda’r BBC, mae wedi cynhyrchu a chyflwyno ei gyfres ei hun o raglenni ar gerddoriaeth glasurol, opera, cerddoriaeth gorawl a cherddoriaeth ‘canol y ffordd’ yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

TOCYNNAU

Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Gwybodaeth

28 Tachwedd 2025, 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau