Digwyddiad:Dathliad Gŵyl Canol yr Hydref
Gŵyl Canol yr Hydref yw un o ddathliadau mwyaf pwysig y calendr Tsieineaidd. Mae'n cael ei ddathlu yn ystod y cynhaeaf, ac yn anrhydeddu'r lleuad lawn fel symbol o gytgord, amser i'r teulu a digonedd.
Yr hydref hwn, dewch i gael blas ar y traddodiad diwylliannol hyfryd yng nghanol Caerdydd. Trwy gerddoriaeth, dawns, crefftau, gemau a llawer mwy, byddwn yn profi cyfoeth treftadaeth Tsieineaidd ac yn dathlu ar draws y cenedlaethau.
Beth i'w ddisgwyl:
• Perfformiadau byw – o rhythm taranllyd Dawnsfeydd y Llew a'r Ddraig i geinder perfformiadau offerynnol, cewch fwynhau cerddoriaeth a dawns draddodiadol sy'n dod â'r straeon hynafol yn fyw.
• Crefftau Traddodiadol Tsieineaidd – rhowch gynnig ar ysgrifennu eich enw mewn caligraffeg Tsieineaidd, creu llusernau ac ati – hwyl i bawb o bob oed.
• Marchnad fach – detholiad o grefftau, ategolion a rhoddion lliwgar sydd wedi'u hysbrydoli gan ddiwylliant Tsieineaidd.
• Cornel gwisgo fyny – trio dillad traddodiadol – cyfle perffaith am hunlun.
• Sesiwn flasu Qigong – blas ar Taichi neu Ba Duan Jin, symudiadau ysgafn a meddylgar sy'n deillio o draddodiadau iechyd Tsieineaidd
• Gorsaf blasu te – cyfle i gael cegaid o wahanol fathau o de Tsieineaidd, am ddim.
Mewn partneriaeth â Chymdeithas Tsieiniaidd yng Nghymru. Dewch draw i ddathlu'r lleuad lawn gyda'n gilydd.
Gadewch i ni wybod os ydych chi'n bwriadu ymuno gyda ni ar gyfer ein Dathliad Gŵyl Canol yr Hydref
中秋节是中华民族最富诗意的传统佳节之一。皓月当空,象征着团圆、美满与丰收。在这一天,亲人团聚,赏明月、品月饼,寄托着人们对美好生活的祝愿。
今年秋天,我们诚邀您走进卡迪夫国家博物馆,在浓厚的节日氛围中,共同感受中华文化的独特魅力。
活动亮点:
• 传统表演:精彩纷呈的舞龙舞狮、乐器演奏、歌舞功夫等,将带您领略中华之美。
• 艺术手工坊:沉浸式体验中国书法、灯笼制作等,大人孩子都能玩得尽兴。
• 中式集市:琳琅满目的工艺品、饰品与节日装饰,尽显东方之美。
• 国风试衣间:试穿华美的汉服,留下美好的瞬间。
• 气功体验课:柔中带刚的太极或八段锦,带您领略东方养身哲学。
• 茶香雅座:免费品鉴中国茶道,让您在茶香中放松身心。
本次活动由威尔士华人协会(CIWA)联合主办,完全免费,欢迎社会各界人士参加。记得把这个消息也转发给您的亲朋好友哦,我们期待您的到来!
海上生明月,天涯共此时!让我们在卡迪夫共赏明月、共叙温情、共度佳节!
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd