Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni am fore o sgyrsiau cyhoeddus diddorol am fywyd gwyllt Cymru.
Bellach yn 15 oed, mae Cymru Anhysbys yn llwyfan i siaradwyr blaenllaw o bob cwr o'r wlad siarad am eu darganfyddiadau a'u projectau natur diweddaraf.
Byddwn ni'n clywed gan bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid a phlanhigion yn y maes, am hen hanes a'r dyfodol. Mae rhywbeth yma at ddant pawb.
Ymunwch â ni ar y diwrnod yn Narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, neu cofrestrwch i wylio ar-lein.
Dyma'ch cyfle chi i glywed gan yr arbenigwyr, ac i ofyn cwestiynau.
Cliciwch i lawrlwytho rhaglen Cymru Anhysbys
Siaradwyr 2025
Arbed a rhannu casgliad ffotograffau adar Morrey Salmon
Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd
Mae'r casgliad o negatifau plât gwydr ac eitemau eraill a roddwyd i Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd gan y Cyrnol Morrey Salmon, y ffotograffydd adar enwog, wedi bod yn storfeydd yr Amgueddfa ers rhyw 50 mlynedd. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno'r dyn ei hun, ei frwdfrydedd dros ffotograffio adar, a'r project sy'n cyflwyno'r ffotograffau hyn er mwynhad pawb.
Ynys Echni: bywyd gwyllt ynys anhysbys Caerdydd
Sarah Morgan, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Prin bum milltir o Gaerdydd, ar Ynys Echni, gallwch chi weld chwilod sy'n bwyta cnawd, ffwng sydd wedi teithio'r holl ffordd o Seland Newydd, a drudwns o dramor! Mae gan Ynys Echni ecoleg unigryw a hanes cyfoethog, gyda digonedd i'w ddarganfod o hyd.
Thomas Pennant (1726-1828) a Darllen y Byd
Edwin Rose, Prifysgol Leeds
Thomas Pennant oedd un o naturiaethwyr a hynafiaethwyr blaenaf Cymru. Awdur llyfr newydd fydd yn esbonio sut y lledodd ei ddylanwad y tu hwnt i'w filltir sgwâr yn Sir y Fflint, a sut mae ei waith arloesol yn dal yn berthnasol heddiw.
Pam ddylen ni garu cacwn
Seirian Sumner, Coleg y Brifysgol Llundain, awdur 'Endless Forms: Why We Should Love Wasps'
Mae cacwn yn gwneud llawer mwy na cheisio dwyn ein picnics ni - mae cacwn o bwys i bobl ledled y byd. Mae bron i bum gwaith yn fwy o rywogaethau cacwn na rhywogaethau gwenyn, ac mae eu gwahaniaethau yn gip ar rai o ddatblygiadau mwyaf hynod esblygiad. Dewch ar daith ryfeddol i fyd cudd y cacwn!
Cranc Manegog Tsieina – Mae'n bla!
Holly Peek, Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cranc Manegog Tsieina (Eriocheir sinensis) yn rhywogaeth ymwthiol sy'n fygythiad mawr i lannau afonydd a bioamrywiaeth am ei fod yn twrio i'r glannau, niweidio isadeiledd, a disodli rhywogaethau lleol. Mae gwaith ymchwil dychmygus gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn edrych ar ffyrdd newydd i ganfod a dal crancod yn Afon Dyfrdwy!
Rhagor o Wybodaeth
Cranc Manegog Tsieina © Holly Peek
Ynys Echni © Sarah Morgan
Rhaglen Cymru Anhysbys
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd