Digwyddiad:Celf gyda’r Hwyr: Sesiynau Paentio yn yr Amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Bydd Paentio ar y Cyd nôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2026, a'r ysbrydoliaeth y tro hyn fydd hip hop! 

Dewch i gymysgu ar y decks yn yr arddangosfa Hip Hop a chael eich ysbrydoli i gymysgu paent. Ai chi yw ateb Cymru i artistiaid stryd eiconig fel Banksy a Mr. Brainwash?  ⁠ ⁠ 

Cyfle unigryw i baentio gyda ffrindiau, gyda sesiwn DJ fyw gyda DJ Jaffa, ar ôl amser cau yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – cyfle rhy dda i'w fethu.  

Does dim ots os taw paent neu gerddoriaeth sydd yn eich gwaed, mae hwn yn ddigwyddiad i bawb – does dim angen profiad i gymryd rhan. 

Dewch draw i ymlacio a llacio wrth i'r paent lifo. Noson berffaith ganol wythnos i fwynhau gyda ffrindiau, dêt, neu gydweithwyr.  

Dewch i ddatgloi eich doniau creadigol wrth baentio ar y cyd. 

 

Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy'n cynnal y digwyddiad. Bydd hi'n rhoi cyngor a chyfarwyddiadau wrth baentio gyda chi. 

 

Gwybodaeth Bwysig: 

Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.   

Diod wrth baentio. Bydd ein bar bach ar agor i chi o’r dechrau i’r diwedd. Nid yw diodydd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn.   

Mae hwn yn ddigwyddiad 18+ oed yn unig. 

Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr! 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg. 

Gwybodaeth

19 Chwefror 2026, 7yn
Pris £28.00
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Tocynnau nawr ar werth!

Silwét o Gymraes draddodiadol o flaen cefndir celf stryd lliwgar.

DJ Jaffa - Roxem - Dan Green

DJ Jaffa - Roxem - Dan Green

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau