Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Sinema Amgueddfa: It’s a Wonderful Life (U)
Dewch draw i Amgueddfa Cymru i fwynhau cyfle unigryw i ymgolli yn oes aur y sinema.
Bydd Darlithfa hanesyddol ac atmosfferig Reardon Smith yn cael ei gweddnewid yn gartref i sêr y sgrin arian. Gadewch i dywyswyr Kitsch & Sync Collective eich arwain i'ch seddi i fwynhau gwledd o ffilmiau Nadoligaidd, gan gynnwys yr uchafbwynt, clasur ddiamser Frank Capra o 1946, It’s a Wonderful Life.
Beth i'w ddisgwyl?
Byddwch chi'n cael eich tywys i'ch seddi gan ddawnswyr Kitsch & Sync Collective fydd yn diddanu gyda'u dawnsio ditsy cyn i'r ffilmiau ddechrau.
Yn dilyn hyn bydd noson sinema draddodiadol, gan gynnwys ffilm fer dawel gyda chyfeiliant piano byw.
Gall unrhyw un â dant melys brynu popcorn, losin a diodydd o'r bar bach.
Bydd y Ddarlithfa'n cael ei gweddnewid gyda cherddoriaeth amserol a delweddau o'r Amgueddfa o'r cyfnod hefyd.
Caewch y drysau yn y cefn os gwelwch yn dda... mae'r ffilm ar fin dechrau!
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Darlithfa Reardon Smith yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Manylion llawn a gwybodaeth hygyrchedd yma.
Bydd y digwyddiad yn para tua 3 awr. Mae croeso i chi adael y Ddarlithfa a dychwelyd unrhyw bryd.
Bydd y drysau'n agor 30 munud cyn i'r ffilmiau ddechrau.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gyfer y brif ffilm.
Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eistedd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu.
Rhaid i unrhyw blant fod yng nghwmni oedolyn sydd wedi prynu tocyn.
Ni ellir ad-dalu tocynnau.
Movies
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd