Digwyddiad:Disgo Tawel Nadoligaidd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Motel Nights mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru yn cyflwyno'r DISGO TAWEL NADOLIGAIDD.

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar Ddydd Sadwrn Rhagfyr 13eg gyda’n disgo tawel nadoligaidd! 

Gallwch ddewis rhwng 3 sianel wrth i'n DJs chwarae eich hoff anthemau parti a chlasuron Nadolig. Partiwch eich ffordd o amgylch y goeden Nadolig yn un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas! 

Bydd gwesteion yn mwynhau:

Tri DJ yn chwarae amrywiaeth o genres

Profiad disgo tawel unigryw mewn lleoliad eiconig

Bar di-gyswllt a DI-WASTRAFF Motel Nights yn gweini amrywiaeth o ddiodydd.

DIGWYDDIAD I'R TEULU (6yn - 8yn)

Rydym yn cynghori bod pawb sy'n mynychu’r parti mini yn 5+ ac yng nghwmni oedolyn!

Archebu tocyn teulu

DIGWYDDIAD I OEDOLION YN UNIG (9yn - 12yb)

Mae hwn yn ddigwyddiad 18+ yn unig

Archebu tocyn oedolyn

**BETH YW Disgo Tawel?**

Byddwch yn derbyn se o glustffonau ar fynediad, ond nid ydynt yn rhai cyffredin – mae gan y rhain DAIR sianel! Drwy ddefnyddio’r switsh, byddwch yn cael dewis pwy rydych chi'n gwrando arno wrth i'n DJs fynd â chi ar daith gerddorol rhwng genres! PWY FYDDWCH CHI'N EI DDEWIS?

Gwybodaeth

13 Rhagfyr 2025, Teuluol (6yp - 8yn) // Oedolion yn Unig (9yn - 12yb)
Pris O £11.27
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Gweler y ddolenni yn y disgrifiad er mwyn archebu tocynnau!
Poster Hysbysebol Disgo Tawel
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau