Digwyddiad:Croesawu wrth Gyrraedd
Croesawu wrth Gyrraedd
Nid yw croeso mor syml ag mae'n swnio. Sut mae Amgueddfa Cymru yn ein croesawu?
Ymunwch â Bianca Ali, Osian Grifford a JT (Islet, Ya Yonder) i glywed y neuadd fawr a'i gwahanol ffyrdd o groesawu mewn goleuni newydd. Bydd y perfformiad sain hwn yn deffro dau ddarn newydd o waith yn y neuadd fawr trwy eiriau llafar, drymiau byw a synths. Yn seiliedig ar weithdai a sgyrsiau gyda Sophie Mak-Schram yn ystod 2023-2025 yn rhan o Dyfal Droi y Garreg, mae'r gweithiau celf a'r perfformiad yn cyflwyno geiriau, darluniau a sain newydd am wahanol brofiadau o groeso, cysur a hanes wrth gyrraedd Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd