Digwyddiad:Dyfal Droi y Garreg: Parti gwrando Lle/aer
Ymunwch â Rubie a Sophie Mak-Schram yn yr oriel gerfluniau ar gyfer parti gwrando ar Lle mae'r aer (2025).
Mae Lle mae'r aer yn waith celf newydd sy'n rhan o arddangosfa Dyfal Droi y Garreg. O glustfeinio gallwch glywed Lle mae'r aer yn treiddio trwy ddrysau'r oriel gyfagos. Mae'n seiliedig ar recordiadau maes mewn rhannau o'r amgueddfa sydd ddim fel arfer yn cael ei weld gan y mwyafrif. Wrth feddwl am bwy sydd â llais, a phryd y gellir clywed lleisiau, bydd y cyfansoddiad awr o hyd hwn i'w glywed am un diwrnod yn unig, ar gyfer pobl sydd â phrofiadau byw o hiliaeth, trawsffobia, rhywiaeth, ableddiaeth neu strwythurau gormes eraill.
Rhaid cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, e-bostiwch Kate Breeze safbwyntiau@amgueddfacymru.ac.uk i drefnu cymorth – mae cyllideb benodol ar gael ar gyfer mynediad, a allai gynnwys teithio, gofalwyr, cyfieithu (gan gynnwys BSL), neu archebu cadeiriau olwyn ac ati. Mae'n bosibl y bydd angen i ni drafod eich anghenion mynediad er mwyn deall beth sy'n bosibl, ond ni fyddwn yn gofyn am 'dystiolaeth' ohonynt, rydym yn deall mai chi sy'n gwybod beth sydd ei angen arnoch i ymuno â ni.
Gwybodaeth
- 9 Tachwedd 2025 - 11.30am – 12.30pm
- 9 Tachwedd 2025 - 1.15pm – 2.15pm
- Addasrwydd - Ar gyfer pobl sydd â phrofiadau byw o hiliaeth, trawsffobia, rhywiaeth, ableddiaeth neu strwythurau gormes eraill.
- Lleoliadau - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (Rotunda)
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd