Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gyda’r Hwyr: sioe wyddoniaeth a pheirianneg fin nos i’r teulu cyfan, gyda phob math o weithgareddau. Mae llwythi o stondinau, gweithgareddau a sgyrsiau i edrych arnyn nhw yn yr ardaloedd hyn dros 3 llawr yr Amgueddfa. Cyfle i chi gwrdd â gwyddonwyr a pheirianwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a mwynhau llond trol o weithgareddau rhyngweithiol, hwyliog... a chael bod yn yr amgueddfa wedi iddi dywyllu!
Bydd y rhaglen lawn ar gael yn fuan ond bydd –
Digwyddiad partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad prysur a swnllyd iawn. Os hoffech chi ymweld â'n casgliadau ar adeg dawelach, maen nhw ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul 10am-4pm ac mae ein tudalen Digwyddiadau yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau eraill a allai fod yn fwy addas.
Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae pob rhodd, boed yn fawr neu yn fach, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.
Gallwch chi roi drwy fynd i Ein cefnogi | Amgueddfa Cymru.
Sylwch, gall gweithgareddau newid ar y funud olaf, felly ffoniwch cyn teithio’n arbennig.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd