Sgwrs:Goleuni Newydd ar Gwen John: Trafodaeth

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ymunwch ag Amgueddfa Cymru mewn symposiwm i drafod bywyd a gwaith Gwen John a’r arddangosfa sy’n edrych yn ôl ar ei gyrfa - Hardd a Hynod. 

Bydd y gyfres hon o sgyrsiau a thrafodaethau yn narlithfa hanesyddol Reardon Smith yn taflu goleuni newydd ar ei gweledigaeth artistig rymus ac anarferol Gwen. 

Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar gasgliad rhyfeddol Amgueddfa Cymru o ddarluniau, llyfrau braslunio a phaentiadau gafodd eu gadael yn ei stiwdio ym Mharis ar ôl iddi farw. Mae’r casgliad yn ein hannog i edrych o’r newydd, a deall yn well un o artistiaid pwysicaf Cymru, ac un o’r enwocaf yn rhyngwladol. 

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan staff Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Lucy Wood, Uwch Guradur Celf a Churadur  Gwen John: Hardd a Hynod; Fiona McLees, Uwch Gadwraethydd Papur; Rachel Beard, Uwch Gadwraethydd Paentiadau; a Helena Anderson, Ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bryste ac Amgueddfa Cymru.   

Gwybodaeth bellach 

Nid yw tocynnau i'r sgwrs yn cynnwys mynediad i'r arddangosfa. Rhaid prynu tocynnau arddangosfa ar wahân: Gwen John: Strange Beauties | Museum Wales

Mae Darlithfa Reardon Smith yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ar ein gwefan mae gwybodaeth lleoliad a mynediad.  

Bydd drysau'r Ddarlithfa yn agor 30 munud cyn dechrau'r digwyddiad. 

Dyma ddigwyddiad lle byddwch chi'n eisteddGwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu tocyn i bob person sy'n mynychu.       

Ni chaniateir bwyd na diod yn y Ddarlithfa. 

Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.

Gwybodaeth

11 Mehefin 2026, 11yb - 4.30yp
Pris £15.00 (Oedolyn) | Gostyngiadau Ar Gael
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Nid yw tocynnau ar gyfer y digwyddiad yma yn cynnwys mynediad i'r arddangosfa
Pobl yn Eistedd mewn Eglwys - Gwen John
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
11 Mehefin 2026 11:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad. 

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Tan Dydd Sul 15 Chwefror 2026

Monday Ar gau
Tuesday 10 am–4 pm
Wednesday 10 am–4 pm
Thursday 10 am–4 pm
Friday 10 am–4 pm
Saturday 10 am–5 pm
Sunday 10 am–5 pm

O Dydd Llun 16 Chwefror 2026

Monday Ar gau
Tuesday 10 am–5 pm
Wednesday 10 am–5 pm
Thursday 10 am–5 pm
Friday 10 am–5 pm
Saturday 10 am–5 pm
Sunday 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau