Digwyddiad:Iaith Arwyddion Prydain: Artes Mundi 11

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Mae Artes Mundi yn partneru â rhwydwaith Ein Byd Gweledol i gyflwyno taith Iaith Arwyddion Prydain o gyflwyniad Artes Mundi 11 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd dan arweiniad tywysydd artistiaid Byddar proffesiynol, Emily Rose.

Mae’r daith hon wedi’i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o’r gwaith sydd ar ddangos, ei gyd-destun o fewn arddangosfa ehangach AM11 a chipolwg ar ymarfer a chefndir yr Artistiaid. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain.

Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd gennym staff ychwanegol ar gael i groesawu a chynorthwyo ar y diwrnod.

Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at amy.treharne@artesmundi.org

Archebwch docyn am ddim

Gwybodaeth

24 Chwefror 2026, 1pm - 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Gwaith celf gan Sancintya Mohini Simpson
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau