Digwyddiad:Noson gyda Bleak Fabulous

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ymunwch â ni fis Hydref am noson arbennig gyda Bleak Fabulous, y ddeuawd greadigol tu ôl i'n harddangosfa ffotograffiaeth gyffrous newydd, Ffasiwn yw e. 

Anghofiwch ddelweddau sgleiniog a lleoliadau ar ben draw'r byd. Tyfodd project 'It's Called Ffasiwn' o glybiau ieuenctid, strydoedd a bywyd bob dydd yn y Cymoedd. Yma, cydweithiodd pobl ifanc gyda'r artistiaid, Clémentine Schneidermann a Charlotte James, i greu rhywbeth swnllyd, lliwgar, pync a balch. Yn y digwyddiad yma, cewch glywed am steilio creadigol, bod yn chwareus ac ychwanegu agwedd, a sut wnaeth y project wthio'n ôl yn erbyn yr hen ystrydeb mai mewn dinasoedd yn unig mae creadigrwydd yn bodoli. 

Dan arweiniad Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur, ac yn awyrgylch trawiadol ein Prif Neuadd, byddwn yn sgwrsio am ddechreuad y project, pam ei fod mor bwysig a datblygu'r arddangosfa. 

Stiwdio ffotograffiaeth greadigol gyda phwyslais ar gymuned a chydweithio yw Bleak Fabulous. Maen nhw'n dathlu pobl ifanc sydd ddim yn aros am ganiatâd i gael eu gweld. Ffotograffydd sy'n rhannu ei hamser rhwng Cymru a Ffrainc yw Clémentine Schneidermann. Cyfarwyddwr Creadigol, gwneuthurwr ffilmiau ac addysgwr o Ferthyr Tudful, de Cymru, yw Charlotte James. 

Dewch i'r digwyddiad yma am gipolwg gonest, llawn egni ar greu arddangosfa Ffasiwn yw e. 

Gwybodaeth Bwysig 

  • Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad i arddangosfa, Ffasiwn yw e. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 8pm a 10pm i ddeiliaid tocynnau. 
  • Bydd y sgwrs yn dechrau am 7pm ac yn para tua 1 awr, gan gynnwys sesiwn holi ac ateb gan y gynulleidfa. 
  • Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 8pm a 10pm. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i ymweld â'r arddangosfa. 
  • Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal yn ein Prif Neuadd. 
  • Ni fydd ad-daliad ar gael am docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu.

Gwybodaeth

16 Hydref 2026, 7yn (Arddangosfa ar agor rhwng 8yn - 10yp)
Pris £10.00 (Cyffredinol); £8.00 (Gostynedig); £5.00 (Dan 16)
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Mae tocynnau i'r digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys mynediad i'r arddangosfa i'r noson yn unig.
© Clémentine Schneidermann ac Charlotte James

© Clémentine Schneidermann ac Charlotte James

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
16 Hydref 2026 19:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad. 

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Dydd Llun Ar gau
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau