Digwyddiadau

Arddangosfa: Rembrandt: Portread o Catrina Hooghsaet

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
I 17 Chwefror 2013
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Portread o Catrina Hooghsaet (1606-1669), 1657, Rembrant van Rijn (1606-1669)

Rembrandt van Rijn (1606-1669)
Portread o Catrina Hooghsaet (1607-1685)
1657
Olew ar gynfas
Ar fenthyg gan gasgliad preifat © casgiald preifat

Ym 1657 comisiynwyd Rembrandt i beintio'r foneddiges gyfoethog o Amsterdam Catrina Hooghsaet.

Oherwydd bri rhyngwladol Rembrandt, daeth y waith i Brydain cyn gynted â'r 1720au mwy na thebyg. Castell Penrhyn ger Bangor yw cartref y portread ers y 1860au.

Er ei fod yn fethdalwr, Rembrandt oedd un o brif artistiaid ei oes. Erbyn hyn mae'n cael ei gydnabod fel un o'r ffigyrau pwysicaf yn hanes celf y byd.

Addasodd Rembrandt draddodiadau celf yr Iseldiroedd i gyd-fynd â'i arddull ei hun. Wrth beintio portreadau roedd ei allu i ddal ymddangosiad naturiol y model yn flaengar iawn. Peintiodd gymeriadau ac nid wynebau'n unig.

Arloeswr ydoedd mewn technegau peintio.Mae portread Catrina'n dangos ei allu i gyfuno manylion bychain, argraffiadau aneglur ac effeithiau trawiadol o olau a chysgod.

Pwy oedd Catrina Hooghsaet?

Yma gwelir Catrina Hooghsaet yn edrych yn berson annibynnol, penderfynol a braidd yn ecsentrig - nid yn annhebyg i Rembrandt ei hun. Mae portread Rembrandt yn dweud cyfrolau am ei fodel:

Dillad: mae gwisg ddu syber? Catrina â chyffiau, coler a chap gwyn yn dangos ei bod yn aelod o enwad crefyddol llym y Mennoniaid. Roedd llawer o'r aelodau'n gefnog ac mae gwisg sidan Catrina a'i phethau cain yn arwydd o'i chefndir cyfoethog.

Hances: roedd hancesi'n bethau moethus ac yn arwydd o gyfoeth ac agwedd soffistigedig.

Penwisg: mae cap cymhleth Catrina wedi'i binio â pherlau ac wedi'i dynnu'n dynn o gwmpas hoofdijsertgen (heyrn pen) gwerthfawr o aur sy'n cydio yn ei bochgernau.

Dwylo: symudodd Rembrandt safle gwreiddiol ei dwylo a'u gosod ar freichiau'r gadair sy'n rhoi awdurdod i ystum Catrina. Dynion sydd fel arfer yn eistedd felly mewn portreadau.

Ystum: roedd modelau benywaidd fel arfer yn eistedd gan wynebu'r chwith a'u gw?r yn wynebu'r dde i ffurfio pâr taclus. Ond yn wahanol i'r arfer roedd Catrina'n byw ar wahân i'w g?r ac ni pheintiodd Rembrandt mohono. Yn achos Catrina mae'n wynebu ei pharotyn anwes.

Parotyn: Cafodd parotynod eu mewnforio ar longau masnachol yr Iseldiroedd a gwgai'r Mennoniaid arnynt fel moethau'r byd. Roedd un pregethwr yn drwm ei lach ar fenywod a boenai'n fwy am eu parotynod na'r tlodion.

Dyma fenthyciad arbennig gan Gastell Penrhyn

Digwyddiadau