Esblygiad Cymru
Cymrwch daith chwedlonol drwy amser a gofod.
Dilynwch siwrnai Cymru wrth iddi deithio ar draws wyneb y blaned o'i gwreiddiau biliynau o flynyddoedd yn ôl, wedi'i bywiogi drwy gyfrwng ffilm, sain, golau a sbesimenau ardderchog.
Ymbaratowch am daith 4,600 miliwn o flynyddoedd yng nghwmni fgwibfeini, cerrig o'r lleuad a ffosiliau ar siwrnai sy'n dod â chi wyneb yn wyneb â deinosoriaid a mamothiaid gwlanog.
Mae'r stori'n cychwyn gyda'r Glec Fawr a dechreuad amser, gan arwain at ymffurfiad y Ddaear 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Yna bydd eich taith yn mynd drwy sawl math gwahanol o hinsawdd ac amgylchedd wrth i Gymru symud ar draws wyneb y blaned.
Dysgwch sut y bu i fywyd esblygu a gwelwch ffosiliau ac arddangosiadau sy'n ail-greu'r amgylchedd pan oedd gwahanol anifeiliaid yn byw.
Cewch weld sgerbydau mowntiedig o greaduriaid hynafol gan gynnwys ailgread trawiadol o dde Cymru 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl sy'n arddangos sgerbydau ac olion traed trawiadol y dinosoriaid.
Mae oriel gyflwyno'n dangos sut mae dŵr, gwynt, rhew, disgyrchiant a gwres o'r tu mewn i'r Ddaear wedi ffurfio ein planed.
Wrth i Gymru dreiglo'n araf ar draws wyneb y Ddaear o'i dechreuadau deheuol iawn mae wedi cwrdd â llosgfynyddoedd, rhewlifoedd, riffiau cwrel, corsydd trofannol ac anialdiroedd ar hyd y ffordd.
Dyma arddangosfa fwyaf erioed yr Amgueddfa ac mae'r man arddangos dros fil o fetrau sgwâr. Mae'n adrodd stori esblygiad yng Nghymru o'i gwreiddiau daearegol cynharaf hyd ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf pan ffurfiwyd ein tirwedd bresennol.
Diolch o galon i Gyfeillion Amgueddfa Cymru am gefnogi gwaith atgyweirio hanfodol yr arddangosfa Mamoth.