Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Ifan Gruffydd (1896-1971)

Plwyf Paradwys, Môn.

Ifan Gruffydd

Bu'n was fferm ac yna'n Ofalwr gyda'r Cyngor Sir yn y 'lle mawr 'na yn Llangefni', chwedl yntau. Ar wahân i gyfnod yn y fyddin, yn Rhos-y-ffordd y bu'n byw gydol ei oes. Yr oedd yn adnabyddus fel actor, awdur dramâu ar gyfer cwmnïau lleol, cynhyrchydd a darlithydd poblogaidd. Ysgrifennodd ddwy gyfrol o'i atgofion sy'n glasuron: Y Gŵr o Baradwys (1963) a Tân yn y Siambar (1966). Yn 1971 golygodd J Elwyn Hughes y gyfrol Cribinion, sy'n cynnwys erthyglau teyrnged iddo a detholiad o'i ysgrifau. Un o'r rhain yw 'Cariad Cyntaf', sef fersiwn ysgrifenedig o'r atgofion a recordiwyd ar dâp AWC 1635.

Stories Presented