Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Croesi'r Terfynau ar Ddydd Nadolig, a'r Teulu Bach wrth Ogof Pitar Graen

Ifan Gruffydd (1896-1971)

Odd ych Mam â diddordeb mawr, dudwch chi, mewn traddodiade chwedlonol?

Oedd, alla i ddeud bod hi yn cymryd diddordeb, dudwch, ond dim byd yn arbennig felly. Roedd hi, wrth gwrs, yn gynefin â'r hen ddywediada ac ati ac yn 'u credu nhw, dudwch chi, 'tê, arwyddion y tywydd a ryw betha felna. Hen ddywediada a hen ddiarhebion, a rodd pobol yn 'u credu nhw, dach chi'n gweld. Ac oeddan nhw'n dod yn ffaith yn 'u bywyd nhw, ddigon amal, ac yn profi bod 'na sail iddyn nhw, 'ntê, petha nad ydi pobol ddim yn credu nac yn meddwl amdanyn nhw heddiw, wrth gwrs.

Ie. Oedd hi ddim yn credu yn y Tylwych Teg, nag oedd?

Wel, fedra i ddim deud odd hi'n credu yno fo, ond odd hi'n roid yr argraff arna i 'i bod hi'n credu. A'r argraff honno, wrth gwrs, odd yn peri i minna gredu. O, credu'n ddwfn iawn yn y Tylwyth Teg, wrth gwrs, ac yn cymryd diddordeb byw ynddyn nhw, er y byddwn i 'u hofn nhw, wrth gwrs, 'tê. A mynd i dramgwydd byddach chi pe baech chi'n dod ar draws - ne'r Tylwyth Teg yn dŵad ar ych traws chi mewn ryw gilfach neu rhyw goedwig lle'r oeddan nhw'n trigo. Ac mi oeddan nhw'n trigo mewn llawer lle. Oeddan nhw'n trigo yng Nghoed yr Henblas, fel byddan ni'n deud. Ac yn yr ogo hefyd. Ogo Pitar Graen oeddan ni'n galw'r hen ogo. Wel, roedd y Tylwyth Teg yn fanno. Doedd 'na ddim dadl am hynny, 'tê. Ond, wrth gwrs, fyddan nhw ddim allan bob amsar. Ar adega pan fydda hi'n dawal mi fydda'r Tylwyth Teg yn chwara o gwmpas drws yr ogo, meddan nhw, yn ôl ac ymlaen. A mi fydda yr hen bobl yn deud 'u bod nhw bob amsar â'u llygaid ar blant bach, pe baen nhw'n cal gafal ynddyn nhw. A pe baen nhw yn dal plentyn bach, 'u bod nhw'n mynd â fo i fiewn efo nhw i'r ogo a'i gadw fo am un dydd a blwyddyn.

Ac, wrth gwrs, oherwydd hynny mi fyddan ni ofn y Tylwyth Teg, er y byddan ni â diddordeb mawr ynyn nhw, clywad 'u hanes nhw, mai petha - bobol bach, bach oeddan nhw. A wedyn f'wn i'n cal fy rhybuddio gin mam bob amsar, wrth gwrs, - a llawer mam arall yn rhybuddio'i phlant run fath - am beidio mynd yn agos i'r ogo os nad oedd rywun yn cymryd y gofal ohonon ni, bod hi'n berygl i'r Tylwyth Teg i gâl gafal ynon ni. A mi fyddwn i ofn am fy mywyd mynd dros y terfyn fydda mam wedi 'i osod. A'r terfyn hwnnw fydda yr eglws. Oblegid yr ochor draw i'r eglws y mae'r ogo 'ma, dach chi'n gweld. Yng nghanol caea, felly, ma hi. Ryw le unig iawn. Fysach chi feddwl am Dylwyth Teg neu rywun tebyg yn cartrefu fanno, oherwydd y llonyddwch a'r tawelwch.

Ac, wrth gwrs, roedd pob man yn dawal pryd hynny yng nghefn gwlad, dach chi weld. A mi fydd arna i hirath mawr am dawelwch cefn gwlad yn yr oes honno. Wyddoch chi, ma'r drafnidiaeth 'ma heddiw - wel, dach chi bob munud yn clywad ryw sŵn peiriant yn rwla, neu gerbyd yn mynd heibio. A'r peririanna mawr 'ma wedi dŵad rŵan - dyn annwl! A'r hen dŷ 'ma'n crynu ganddyn nhw. Ond yn yr oes honno doedd 'na ddim byd, wrth gwrs, mwy na ceffyl a throl, neu gar a cheffyl, neu waganet Twm Hermon yn mynd i'r ffair neu'r farchnad ar ddydd Iau. Dyna'r cyfan o drafnidiaeth fyddai 'ma, dach weld. A gyda'r nos, rŵan, dyna chi'r amser bydda i â hiraeth amdano fo. Dwi'n cofio fel byddwn i'n mynd allan, yn sefyll yn y drws 'ma, neu mynd at giât y lôn, dudwch, edrych ar y sêr. Dim siw na miw yn unman. Berffaith dawel. Allach chi glywad dyn yn cerdded i'ch cyfeiriad chi bron, am wn i, hanner milltir i ffwrdd. Oeddach chi'n nabod sŵn 'i droed o. Oeddach chi'n gwbod pwy oedd o. Glywech gar a cheffyl, dudwch, yn dŵad cyn belled yn ôl â mwy na hanner milltir o fan'ma. Cierbyd yn croesi ffordd bost Caergybi 'na'n dŵad - mi glywach gama mân y ferlan yn dŵad, a braidd nad oeddach chi'n clywad y gyrrwr yn 'i gyrru hi ac yn ysgwyd yr awena, 'tê. Odd hi mor dawel â hynny, dach chi'n gweld.

Wel, ia , fuom i'n sôn am y Tylwyth Teg wrthach chi, do. Dwi'n credu bod gin i stori bach reit diddorol fedra i ddeud 'thach chi. A ma hi'n stori wir, cofiwch. Doedd 'na mond y fi, am wn i, yn y gymdogaeth fach yma o ryw, dudwch, hanner dwshin o dai. Y fi odd yr unig blentyn. Pobol heb ddim plant oedd o gwmpas y lle 'ma, a fi odd yr unig un yn fama. Toedd 'na mond mam a finna'n byw yn yr hen fwthyn bach 'ma. A hyd y caea yn chwara y byddwn i - licio bod fy hun. I lawr i gyfeiriad yr eglws yn ôl ac ymlaen. Cymysgu efo'r anifeiliaid 'ma. Nabod y gwartheg wrth eu henwa a'r ceffyla. A wir i chi dwi'n cofio fel y byddwn i'n ofalus iawn rhag mynd dros y terfyna fydda mam wedi 'u osod i mi, sef yr eglwys, rhag y Tylwyth Teg 'ma. Dwi'n cofio fi ryw Nadolig, wedi gosod yr hosan ar bostyn y gwely i ddisgwl yr hen Santa Clôs. A dôn i'n cal fawr o betha amser honno. Ryw afal a ryw oren bach, a ryw bresant bach arall hefo fo - rywbeth i chwara efo fo. A'r Nadolig yma o dan sylw, gwn ceiniog oeddwn i 'di gâl, efo'r oren a'r afal o siop Betsi Rolant, Llangiefni. Deyn Annwl! ôn i 'di cal digon o fodd i fyw efo'r gwn bach 'ma. Wel, odd rhaid cal mynd allan efo fo hyd y caea. Y caea bydda Defis, y Borth, yn saethu arnyn nhw ers talwm - y meistr tir, dach chi'n gweld. Ac yn magu ffesants - o, digonadd o gêm y pryd hynny. A Huw Robaitsh, y cipar, yn edrach ar 'u hola nhw. Fuom i'n 'i ddilyn o lawar gwaith, a fynta'n mynd efo'i wn i saethu amball i dderyn ysglyfaethus, dudwch, oedd yn amharu ar y ffesants. A mynd run fath â Huw Robaitsh, y cipar, ac yn teimlo fy hun yn debyg i Defis, y Borth, hefyd weithia. Teimlo mai fi odd pia'r stât. A mynd efo'r gwn bach ceiniog 'ma. Dychmygu mod i'n medru saethu amball i ffesant ac amball i sgwarnog, dach weld. A fel rheol mi fydda Defis, y Borth, ar ddydd Nadolig, yn saethu pob man ac yn mynd dros 'i derfyna. Gneud ryw hafoc fawr ddydd Nadolig, a phawb yn medru madda iddo fo am fynd i'w tir nhw, 'tê.

A mi fanteishish inna ar yr Ŵyl , eish inna dros y terfyna. Eish tu draw i'r eglws, dros y bonc, a cherddad yr hen gaea hir 'na lle ma'r brwyn a'r hesg yn tyfu 'dat fy ngeseilia fi, neu uwch na mi. Ac wir, mi ddalish i fynd, a ddoish at yr ogo heb yn wybod i mi fy hun. Down i 'im yn meddwl dim amdani hi. A'r hyn nath i mi wbod mod i yn 'i hymyl hi oedd gweld - mi welwn deulu bach o bedwar yn bwyta'u cinio Nadolig yn nrws yr ogo, wedi gosod ryw fath i babell fach, dach chi'n gweld, dros y fynedfa felly. O'n nhw'n cysgu tu mewn iddi hi ond yn câl 'u prydia bwyd, ma'n debyg, yn y fan honno. Wel, cyn i mi gâl dianc am fy mywyd - odd gynnyn nhw ddau blentyn, bachgen a geneth fach - odd y ddau blentyn wedi dŵad ar fy ngwarthaf fi ac o nghwmpas i. A fedrwn i 'im dianc yn dda iawn. A dwi'n cofio fod y bachgen, beth bynnag, yn cyfri bytyma nghôt i fel hyn, a'r eneth yn cosi dan fy ngên i fel hyn ag yn tynnu 'i llaw dros fy ngrudd i, am wn i. Wn i 'im odd hi ngweld i'n beth del, ta be! Beth bynnag, oddwn i'n gweld hi'n beth ddel. Wel, mor ddel nes oeddwn i, am wn i, er mor ifanc oeddwn i, wedi syrthio mewn cariad â hi dros fy mhen a nghlustia. Hynny ydi, wedi i mi ddod yn gartrefol efo nhw, dach chi'n gweld.

Ow! oeddwn i wedi dychryn 'n ofnadwy, ond mi gnaethon fi'n eithaf cyffyrddus, chwara teg iddyn nhw. A mi aethon â fi a rhoi bwyd i mi. Wel, deyn! be tasach chi'n gweld y bwrdd oedd gynnyn nhw. Digonadd o ffesants a sgwarnogod a phob ryw dda pluog, ac wedi hulio cinio Nadolig cystal ag oedd gan ŵr y plas ar 'i fwrdd, dwi'n siŵr, bob dydd. A wir, mi geish i ginio Nadolig ardderchog, er bod mam yn pryderu'n ofnadwy, ma' siŵr, ers meitin yn nghylch i. A mi arhoshis yno. Wel, oeddwn i'n methu'n glir â dallt pwy oeddan nhw, na sut y daethon nhw i'r fath le efo'r holl gelfi oedd gynnyn nhw. Odd gynnyn nhw drol ddwylo, dach chi'n gweld, ac oeddan nhw wedi gorfod croesi afon, a dŵad drwy frwyn, a thros greigiau a'r hesg, a phob ryw anialwch o le felly. A dau filgi mawr yn gorwedd o dan y drol ddwylo 'ma. O, gorwedd yn dadluddedu'n braf, a'u tafoda cochion nhw fel llafna gwaedlyd felly yn hongian dros 'u gwefla nhw, felna i lawr. A'u clustia'n codi i fyny ac i lawr, fel pe byddan nhw'n barod i gychwyn ar orchymyn y meistr i hela drachefn i rywle.

Wel, mi ddoish i'n eitha cyfforddus cyn pen dim a chwara efo'r plant. Ŵ, ac yn gweld yno le braf, bendigedig. Ac wedi ffarwelio â'r syniad mai y Tylwyth Teg oeddan nhw, wrth gwrs. Ac yno buom i ac yno byddwn i mynd wedyn pan own i ishio mynd i chwara efo rywun - i lawr at ddrws yr ogo i gyfarfod â Juliana a'i brawd. A fuom i'n chwara yno droeon efo nhw, ac oeddwn i wrth fy modd yno. Deyn! ac yn hoff o Juliana. Wyddoch chi, Sgotyn odd y gŵr, meddan nhw - pobol yn deud, felly. Ac wedi gadal 'i gartre ac wedi priodi â merch o'r gwledydd poethion 'na. Felna bydda'r hen bobl yn deud. Ac, wrth gwrs, mi rodd hi'n dywyll 'i chroen. Gwallt du fel y frân a dau lygad du oedd ganddi, a Juliana yr un ffunud â hi, a llawn mor brydferth. Deyn annwl! mi roedd hi'n eneth hardd. Ond, wrth gwrs, ifanc iawn oeddan ni - dudwch mod i [rhwng] pump a chwech oed, rwbath felly, 'tê, os dwi'n cofio'n iawn. Pa 'run bynnag am hynny, fuom i'n mynd yno am wsnosa i chwara efo Juliana a'i brawd. A Mam yn ofni'n arw, ac eto'n gweld bod pob peth yn iawn hefyd, ac yn caniatáu i mi fynd. A phobol eraill yn deud nad odd ddim ishio i mi gymysgu efo pobol dywyll 'u croen, ac yn y blaen, 'tê, bod hi'n beryglus iawn. Pa run bynnag, dodd dim gwahaniaeth, ôn i'n rhy hoff o Juliana, allai neb fy atal i rhag mynd i lawr y naill ddydd ar ôl y llall, yn enwedig ar ddydd Sadwrn.

Fodd bynnag i chi, rhyw fore dydd Sadwrn wedi i mi fynd yno oeddan nhw wedi diflannu - wedi myned i'w hynt i rywle. Dim ar ôl, dim ond yr hen hesg a'r brwyn ar ôl lle bydden nhw'n gorwedd ac yn cysgu, a ôl y tân bach, wrth gwrs, y llwch felly, a llwybra o gwmpas lle byddan ni'n chwara. Wel, mi oddwn i'n brofedigaethus iawn, gweld Juliana wedi mynd. Falla na welwn i byth moni. A wyddoch chi, fuom i'n hiraethu amdani hi. Dwi'n hiraethu am Juliana heddiw, hyd yn oed. Fuom i'n hiraethu amdani am - ŵ, wel, nes yr aeth hi allan o fy meddwl i'n llwyr yn y diwedd, gyda'r blynyddoedd, wrth gwrs.

* * *

A fuom yn crwydro wedyn ar hyd a lled yr hen fyd 'ma, o naill fan i'r llall. A chael fy hun ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn dipyn o swyddog, a deud y gwir, os goddefwch i mi ddeud felna, yn y fyddin yn edrych ar ôl gwersyll yn Dunkirk yn Ffrainc, a 'nghyfrifoldeb i oedd gofalu am y staff o filwyr oedd yn darparu bwyd ar gyfer y milwyr oedd yn mynd a dod, yn gorffen yn y fyddin o'r Dwyrain Pell a'r Dwyrain Canol, dudwch, yn dod adra. Galw yn Dunkirk - y llong yn aros yn fanno iddyn nhw gâl bwyd, dach chi'n gweld, a gorffwys dipyn. Mlaen â nhw wedyn. Drannoeth [byddai] rhai eraill yn dod. Rhai eraill yn mynd i'r Dwyrain Pell. Roeddech chi'n bwydo miloedd o bobl bob dydd mewn ryw hen babelli mawr, mawr, felly. O, lle prysur ofnadwy. Ac wedyn, odd gen i staff o ddynion yn gweithio, ydach chi'n gweld, efo mi.

A rhyw ddiwrnod i chi, fel roedd y bobol 'ma'r amsar honno, Ffrancwyr, a phawb o ran hynny, yn gneud masnach fendigiedig yn gwerthu petha i'r milwyr i fynd adra, 'dê - siwfiniyrs. Ac roedd pob hen filwr, os oedd ryw drefn arno fo, yn trio câl rwbath bach i fynd adra i'w deulu, neu i'w wraig a'i blant. A dyma ryw hen wraig ataf fi, a'i merch, gallswn i feddwl felly ar y pryd, a gofyn i mi fasan nhw'n câl gosod rhyw siop bach rywle'n agos i ddrws y babell, lle byddai'r milwyr yn mynd a dod, dach chi'n gweld - lle da i werthu. A dyma fi'n caniatáu, wrth gwrs, a mi wnes fwy na hynny iddyn nhw. Mi roddais fenthyg bwrdd neu ddau i'r hen wraig i ddal 'i phetha arno fo. Deyn! ac oedd ganddi betha crand. A'r ferch 'ma wrthi'n helpu. A mi ddois i'n gyfeillgar iawn efo nhw, a nhwytha efo minna. Ac, wrth gwrs, ôn i wedi gneud trugaredd â nhw, ac mi roeddwn i'n mynd heibio am sgwrs yn y bore bach tua'r deg 'ma, a chwpanad o de i'r ddwy ac i mi fy hun. Ac yn cael sgwrs efo'r hen wraig - diddorol iawn, a'r ferch hefyd, wrth gwrs. Deyn! ac ôn i'n leicio'r ferch 'ma. Deyn annwl! Odd hi'n ferch ifanc, hardd. Oedd hi wedi mynd â fy serch i'n llwyr, o ran hynny. Ond doeddwn i'n manteisio dim byd ar hynny, dim ond meddwl petha efo mi fy hun. Naill ddiwrnod ar ôl y llall gawson ni lawer o sgwrs. Ac ôn i'n sylwi fod yr hen wraig yn medru siarad unrhyw iaith. Pwy bynnag ddôi at 'i chowntar hi, oedd hi'n medru newid o Ffrangeg i Saesneg, o Saesneg i'r Almaeneg, neu unrhyw iaith. A dyma fi'n gofyn iddi ryw ddiwrnod gyda diddordeb mawr, a gofyn iddi'n Saesneg, wrth gwrs - oedd hi'n sgwrsio'n Saesneg short ora - yn gofyn iddi faint o ieithoedd oedd hi'n fedru. A dyma hi'n troi ac yn deud wrtha i, yng nghanol 'i phrysurdeb mawr,

'I can speak fifteen languages, my boy', medda hi.

Dear annwl! Finna'n rhyfeddu, wrth gwrs, a deud wrthi mod i'n medru un iaith na fedra hi mohoni, dwi'n siŵr. A dyma hi'n gofyn pa un oedd hi. Dyma fi'n deud mai Cymraeg.

'O, my dear boy', medda hi, 'I lived there with my late husband. I can speak Welsh too.'

'Where did you live?' medda finna wrthi.

A dyma hi'n cymryd darn o bapur. Wyddoch chi, mi ryfeddais i at hynny. Dyma hi'n sgwennu ar ddarn o bapur a'i estyn o mi, a beth oedd arno fo ond Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllandisiliogogogoch. Wel, deyn annwl! dyma fi'n deud mod i'n gwybod lle'r oedd o, a medrwn i ynganu'r gair, ac yn gneud iddi, wrth gwrs.

'Ah,' medda hi, ' now you've got me'.

Doedd hi ddim yn medru Cymraeg, mae'n siŵr gen i, dach chi'n gweld, a wedyn ôn i wedi'i dal hi yn hynny o beth. Dyna ôn i'n feddwl, 'tê.

Fodd bynnag i chi, felly o ddydd i ddydd. A dyma hi'n ddydd Nadolig, ac, wrth gwrs, allai'r hen wraig ddim fforddio peidio gosod y siop i fyny hyd yn oed ddydd Nadolig. Dal i werthu roedd hi. A dyma finna, wrth gwrs, yn mynd â cinio Nadolig i'r ddwy - wedi 'i gâl o yn y cogindy. Darparu a meddwl y byd o gâl mynd â fo iddyn nhw. A dyma fi'n mynd â fo, a 'nghinio fy hun, ac ista i lawr efo nhw i gâl sgwrs. Deiar annwl! A sgwrs ddiddorol fydda gan yr hen wraig bob amsar. Y ferch yn ddistawach - digon dymunol hefyd. O, bendigedig. Ac odd hi'n deud wrth y ferch, a deud wrtha i, wrth gwrs, pa mor garedig oeddwn i wedi bod, gymaint o gymorth iddi hi at 'i byw, oherwydd fy nghymwynasa, ac yn troi at y ferch, ac yn deud rwbath arall yn 'i iaith ei hun. Wn i ddim ai yr Arabeg oedd hi, 'ta beth, dwi ddim yn siŵr. A'r ferch yn troi ac yn edrych arna inna, ac yn edrych ar 'i mam. Ac wn i ddim beth oeddan nhw 'di ddeud, na dim byd. Toc, beth bynnag i chi, cyn i mi fynd oddno at fy ngwaith, dyma'r ferch yn troi ata'i ac yn deud wrtha i:

'I know you. You used to live with your mother in the little cottage beyond the church.'

A Juliana oedd hi. Wedi crwydro'r byd o'r naill ogof i'r llall, am wn i, ar hyd ac ar draws y gwledydd ac wedi cael eu hunain yn fanno. A minna wedi câl fy hunan ar Nadolig ddigon tebyg, am wn i, i'r Nadolig cyntaf pan gwelish i hi wrth ddrws yr ogof. A dwi'n meddwl amdani byth. Be 'di 'i hanas hi erbyn heddiw, dwi ddim yn gwbod. Wn im, be taswn i wedi glynu wrth Juliana beth fasa wedi dod ohona i, be fasa neb arall yn feddwl ohona i, dwi ddim yn gwbod. Ond oeddwn i ddim mewn oed, am wn i, i fedru penderfynu petha felly, pryd hwnnw. Neu ddim yn meddwl, pa 'run bynnag, 'tê. Ond odd o'n ddigwyddiad, neu'n gyd-ddigwyddiad, am wn i, be dduda i, rhyfedd, yntoedd?

* * *

Y Tylwyth Teg oeddech chi'n feddwl oedden nhw pan welsoch chi nhw gyntaf?

O, ia. Uw annwl! Ia. Ac oeddwn i am redeg oddi yno, dach chi'n gweld, ond oeddan nhw wedi nal i. A'r plant bach 'ma o nghwmpas i, wel, y Tylwyth Teg oeddan nhw i mi, 'tê... Ond pan welaish i'r tad a'r fam wedi codi ar eu traed, fel roeddan nhw, wel, nid Tylwyth Teg oeddan nhw i mi wedyn, 'tê. A'u celfi nhw tu allan, 'tê. Roeddwn i'n gwbod wedyn, am wn i, mai rhywbeth tebyg i - nid Shipshwns, dudwch, ond rhywbeth tebyg i'r Abram Woods ôn i'n galw nhw, 'tê. Y bobol 'ma fydda'n pabellu yn rhywle y bydden nhw'n câl llonydd yno, o'r golwg oddi wrth bobol erill, 'tê, lle bydden nhw'n câl mynd i hela'r nos o hyd. A gwledda'r dydd a chysgu. Ac wedyn il ddeffro wedyn at y nos o hyd. Ac yn mynd i hela ffesants Defis, Borth, dach chi'n gweld, a'i sgfarnogod o, 'tê.

Recording

Croesi'r Terfynau ar Ddydd Nadolig, a'r Teulu Bach wrth Ogof Pitar Graen

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 1635 Recordiwyd 14.ix.1976

Nodiadau

Yn y fersiwn brintiedig dywed Ifan Gruffydd ei fod tua saith i wyth mlwydd oed pan welodd y teulu bach ar ddydd Nadolig gyntaf, a'r 'Ogof Fawr' yw'r enw a roddir ganddo ar yr ogof. Yn ei atgofion ar dâp, fodd bynnag, dyma'i sylw pan holwyd ef ymhellach am yr ogof:

'Ogof Pitar Graen 'dan ni'n 'i galw hi. Fuo 'na ryw hen fachgan o'r enw Pitar Graen, ne Peter Green, yn byw yno, dach chi'n gweld. Wel, odd 'rhen ogo wedi bod yn gyrchfan llawar o bobol tebyg i rheina dwi 'di sïn amdanyn nhw wrthoch chi. Amball i hen grwydryn, dach chi'n gweld, yn gneud 'i gartre yn yr ogo am ryw wythnos, dudwch, ne bythefnos, ne weithia am dymor Gaea. Codi allan i hel 'i damad hyd y wlad... ac amball un yn grefftwr yn medru mynd o gwmpas y ffermydd i ofyn oeddan nhw eishio hogi arfau, neu drwshio llestri – llestri coed dwi'n feddwl rŵan... Hen deiliwr, falla, ar grwydr, yntê. Wel, neb yn gwbod sut y bydda fo wedi mynd i'r stad honno... Llawer i hen deulu felly welish i hefyd, wedi gweld amsar gwell.'

A dyma sylw pellach gan Ifan Gruffydd am arwyddocâd 'un dydd a blwyddyn':

'Odd 'na rwbath mewn un dydd a blwyddyn, yntoes. Ers dalwm, fydda pob ryw beth pwysig iawn, dudwch rywun wedi gneud 'i wyllys, 'tê, rywun wedi gadal rwbath ichi, chaech chi mono fo am un dydd a blwyddyn, na chaech?'

Fel ateb i'r cwestiwn: 'Glywsoch chi rywun arall ar wahân i'ch mam yn sïn am y Tylwyth Teg', meddai Ifan Gruffydd:

'O, diar mi, do, yr hen bobol. 'Rhen bobol yn deud haneshion Tylwyth Teg, dach chi'n gweld, ar yr aelwyd, yntê. Welish i Mam yn mynd – fel bydda'r hen gymdogion amsar honno'n mynd i weld 'i gilydd gyda'r nosa, 'tê. Treulio dwy awr neu dair yn nhŷ cymydog rŵan. Ryw hannar dwshin wedi dŵad at 'i gilydd a finna, wrth gwrs, yn blentyn bach yn ista ar y stïl huarn wrth tân, felna. Stïl huarn a ffendar, 'tê, wrth gwrs, o flaen yr hen danna, yntoedd. A fydda'r hefal dân a'r procar melyn, melyn, fel aur bron. Deyn! odd gynnyn nhw waith llnau. Wol, ar y stïl huarn bydda'r plentyn bach i ista bob amsar, a'r hen deulu yn 'u cadeiria ac ar y setl ac yn y blaen, ac yn câl sgwrsus. Wol, er mwyn diddordeb i'r plentyn, weithia deud stori Tylwyth Teg wrtho fo, 'tê. A glywish i lawar stori Tylwyth Teg, 'u bod nhw wedi dal plentyn bach rywun ac wedi mynd â fo, ac wedi'i gâl o'n ïl pen un dydd a blwyddyn, felna o hyd...

Fyddech Mam yn adrodd rhai o'r straeon 'ma wrthoch chi?

O bydda, straeon tebyg. Bydda, tad.

'Dech chi'n cofio un ohonyn nhw?

Wel, na fedra i 'm cofio dim mwy na dwi 'di ddeud wrthach chi rŵan. Rwbath felna. Sïn am lle byddan nhw'n byw, 'ntê. Dan y ddaear ac yn yr ogofâu. Ac odd gynnyn nhw leoedd hardd, bendigedig, a phetha fyddan nhw 'di gasglu, dach chi'n gweld... yn ddodrefn, yn lestri, yn deganau ac yn ddarluniau. A bod nhw'n fedrus iawn ar lunio a gwneud peth 'u hunain hefyd. Mond ryw streuon felly. Wedyn oddna ryw ddirgelwch mawr ynglŷn â'r Tylwyth Teg.'

Adroddir rhagor o hanesion am y Tylwyth Teg gan Ifan Gruffydd ar dâp AWC 1636.

Mae'r eitem uchod yn enghraifft ddiddorol o naratif bersonol – 'stori wir' – yn cael ei hadrodd yn sgîl trafodaeth am y Tylwyth Teg.

Teipiau

ML 4075 Ymweld gwlad y Tylwyth Teg.
ML 4077 (c) Cael eich cadw yng ngwlad y Tylwyth Teg.
ML 5080 Bwyd gan y Tylwyth Teg.
ML 6072 (c) Profiadau yn ymwneud a'r Tylwyth Teg.

Motifs

ML 4077 (c) Cael eich cadw yng ngwlad y Tylwyth Teg.
ML 5080 Bwyd gan y Tylwyth Teg.
ML 6072 (c) Profiadau yn ymwneud a'r Tylwyth Teg.