Owen T(homas) Jones
Parc, sir Feirionnydd
Ganed (1911) ar fferm Cystyllen Fawr, Parc. Symudodd i fferm Tŷ Du, Parc, yn ddengmlwydd oed. Wedi cyfnod yn Ysgol Ramadeg Y Bala, aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, am ddau dymor i astudio amaethyddiaeth. Gweithio gartref ar y fferm wedyn yn Nhŷ Du a symud ar ôl priodi i Lwyn Mafon, a pharhau i ffermio. Gŵr diwylliedig iawn, yn barddoni, yn darllen llawer, ac yn ymddiddori'n fawr mewn hanes lleol a chrefydd. Bu'n ysgrifennydd eglwys MC, Parc, ac yn athro Ysgol Sul. Recordiwd hefyd Gretta Jones, Tŷ Du, Parc, hanner chwaer Owen T Jones (tapiau AWC 1976-8), a cheir ffilmiau ohoni hi ac O T Jones yn AWC yn gwneud cyfleth (rhifau AWC 127, 138).
Stories Presented