Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Ffermwr yn Gwneud Gwaith ei Wraig

Lewis T Evans (1882-1975)

Rodd 'na ryw hen ffermwr, a allse'r wraig yn 'i byw medru'i bleshio fo efo gneud gwaith y tŷ, [a dodd 'na] byth ddim bwyd yn 'i bleshio fo, na gneud dim ar y dduar. Ond rhyw ddiwrnod, beth bynnag, dyma hi'n deud wrtho fo:

'Neno'r annwyl, John! Mi giewch chi drio'n y tŷ fory', bedde hi, 'ac mi â inne allan efo'r gweision.'

'Oreit', bedde fonte, 'mi ro i batrwm iawn i chi.'

Ac felly fu. Mi âth y wraig allan bore drannweth hefo'r dynion, ac mi âth onte ati. Odd ishio corddi i ddechre. Odd y fudde yn y tŷ, ac odd 'no fuwch ishio'i throi i ryw bishin o dir wrth dalcen y tŷ. Ac odd 'no ddibyn mawr, ac [rodd arno fo] ofn iddi syrthio drosodd. A be ddaru o ond clymu rhaff am 'i chyrn hi, a rhoi rhaff i lawr corn y shimdde [a'i chlymu hi am 'i goes]. Ac wedyn, pen odd o'n mynd i gorddi, beth bynnag, odd o 'di gadel y fudde am dipyn bach i setlo rywbeth, a be ddôth i fewn ond yr hwch, ac mi drôdd y fudde. Mi âth ynte yne hefo brwsh llawr ac mi lladdodd hi - yr hwch - yn farw.

Ac mi odd hi'n hwyr las iddo fo neud cinio erbyn hynny. Mi nâth feddwl am neud uwd. Mi rôth y crochon ar y tân, a dŵr a blawd ynddo fo. A dyma'r fuwch dros y dibyn ac mi tynnodd o i fyny'r simdde.

A dyma'r bobol at y tŷ a'r wraig efo nhw, beth bynnag, a'r peth cynta welen nhw odd y fuwch yn hongian dros y dibyn. Ac mi dorson y rhaff ac mi uson i fiewn i'r tŷ, a be welen nhw ond yr hwch yn farw yng nghanol y llaeth cadw a'r hen ffarmwr wedi dod i lawr y shimdde ac ar 'i ben i'r crochon uwd!

Recording

Ffermwr yn Gwneud Gwaith ei Wraig

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 2750. Recordiwyd 11.v.1970. Ail recordiwyd 7.xi.1973 (tâp AWC 4052).

Nodiadau

Yn y recordiad cyntaf, a geir uchod, dywed Lewis T Evans iddo glywed y stori gan un 'o'r lads' pan oedd yn gweithio i'r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghlocaenog rhwng 1930 a 1945. Roedd ei gydweithiwr wedi clywed y stori flynyddoedd lawer ynghynt: 'Odd o'n deud bod o 'di chlywed hi ersdalwm iawn.' Yn yr ail recordiad (tâp 4052) dywed Lewis T Evans iddo glywed y stori gan Thomas Jones, Bryn Du, Cefn Brith; ffermwr, bardd a hynafiaethydd.

Y mae rhai gwahaniaethau rhwng y fersiwn gyntaf a geir uchod a'r ail fersiwn (tâp 4052). Yn y fersiwn gyntaf, nid yw'r ffermwr yn clymu'r rhaff am ei goes nes ei fod yn mynd at y fuwch eilwaith, sef yn mynd 'i droi'r fuwch', ond unwaith yn unig y mae'n mynd i weld y fuwch yn yr ail fersiwn, ac mae'n clymu'r rhaff am ei goes bryd hynny. Yn yr ail fersiwn, dywedir bod y ffermwr wedi corddi pan ddaw'r hwch i'r tŷ, ac mae hithau'n troi'r fuddai ac yn colli'r llaeth a'r menyn ar y llawr. Nid oes sôn yma am ladd yr hwch. Sonnir bod y ffermwr yn rhoi'r 'cietar uwd' ar y tân ac nid y 'crochon' fel yn y fersiwn gyntaf. Pan ddaw'r wraig a'r gweision yn eu hôl maent yn gweld y llaeth a'r menyn ar hyd y llawr a'r hwch yn gorwedd yn farw (er na chrybwyllwyd iddo ei lladd). Y mae'r ffermwr yntau yng nghanol y simdde yn methu â symud, ac nid oes sôn am dorri'r rhaff gan beri iddo fynd ar ei ben i ganol yr uwd. Daw'r stori i ben gyda'r geiriau: 'A dene'r patrwm oedd o 'di roi i'r wraig y diwrnod hwnnw.'

Cyhoeddwyd fersiwn lawnach o'r stori gan T. Gwynn Jones, 'The Cow on the Roof (as told by a Denbighshire Teamsman)', Welsh Folklore and Folk-Custom, Llundain, 1930, tt. 229-31. Siôn Dafydd yw enw'r ffermwr yn y fersiwn hon. Am fersiwn arall, o Landdulas, sir Ddinbych, gw. tâp AWC 4075. Am fersiynau o Loegr, gw. Briggs, cyf.A2, tt. 208-10 (dwy fersiwn ar ffurf cerdd); tt. 269-70. ('Simple John and his Twelve Misfortunes'); a tt. 270-1 (Simple Simon's Misfortunes'). Am fersiynau o Ogledd America, gw. Baughman, t. 28.

Teipiau

AT 1210 Mynd â'r fuwch i ben y to i bori.
AT 1408 Y gŵr sy'n gwneud gwaith ei wraig. Mae'n gwneud pob dim yn anghywir. Mae'n gadael i'r fuwch bori ar y to. Yn clymu pen y rhaff am ei droed.
AT 1681B Ffwl yn gwarchod y tŷ a'r anifeiliaid.

Motifs

AT 1408 Y gŵr sy'n gwneud gwaith ei wraig. Mae'n gwneud pob dim yn anghywir. Mae'n gadael i'r fuwch bori ar y to. Yn clymu pen y rhaff am ei droed.
AT 1681B Ffwl yn gwarchod y tŷ a'r anifeiliaid.