Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Pwy yw'r Meistr - y Gŵr ynteu'r Wraig?

Lewis T Evans (1882-1975)

Odd 'no ddau ffarmwr ... un yn taeru na'r wraig oedd y mistar ym mhob man, a'r llall yn taeru na'r gŵr odd y mistar. A, beth bynnag a fu, mi ddarun nhw fetio. [Mi nâth] un roi dau gieffyl a'r llall roid dau a deugien o wye mewn basged. A rhoi rhyw fachgien ar giefen y ceffyl - un o'r ffyle - a'r fasged ar 'i fraich. Ac odd o i fynd i bob tŷ a gofyn pwy oedd y mistar yno. Ac os dude['r gŵr] na fo odd y mistar, odd ishio fo roi cieffyl iddo fo. Ac os dude fo ma'r wraig odd y mistar, odd ishio fe roi wy iddo fo. Ac mi âth at y lle cynta, ac mi gyfarfyddodd â'r mistar.

'Pa un ai chi 'te'r wraig ydi'r mistar yma?'

'O, fi 'di'r mistar', bedde fynte.

'O, p'run o'r ffyle 'ma gymrwch chi?' bedde'r bachgen.

'O, wel, gymra i'r du', bedde fynte.

'O, nage John', bedde'r wraig, 'chymrwn ni mo'r du, gymrwn ni'r coch.'

'O, ia, wol, ôlreit 'te, mi gymrwn ni'r coch', bedde ynte.

'O, dyma i chi wy', bedde'r bachgen.

Ac felly fu ym mhob man odd o'n mynd. Holi:

'Pwy di'r mistar yma?'

'O, fi', bedde'r gŵr ym mhob man. A phen 'nâi o ddewis [un o'r] ddau gieffyl, beth bynnag, odd y wraig yn deud na'r llall gymren nhw, ac mi fydde'r gŵr yn fflatio ac yn mynd yn bethma iddi, ac yn câl wy, yndê. Ac mi ddôth y bachgien rownd y wlad i gyd ac mi ddôth adre, beth bynnag, wedi rhannu'r ddau a deugien o wye a'r ddau gieffyl gynno fo [o hyd]. Wedyn odd o'n profi na'r wraig oedd y mistar ym mhob man, yndê.

Recording

Pwy yw'r Meistr - y G?r ynteu'r Wraig?

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 3194. Recordiwyd 5.vii.1971

Nodiadau

Dyma stori a glywodd Lewis T Evans gan ei ewythr dall, Lewis Evans, Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer ar ôl i'w ewythr fod yn dadlau â'i fam. Byddai Lewis Evans a'i fam, sef nain Lewis T Evans, yn 'ryw giega cyn iddyn nhw gychwyn i ... Gerrigydrudion, ... nain ishio neud peth fel hyn ac fel arall, 'dê. A fynte'n deud: "Na, fi 'di'r mistar" ... ac mi ddudodd y stori yna, 'ndê.' Ychwanegodd Lewis T Evans y byddent yn dadlau 'ynghylch bob peth, yndê, fedrwch chi feddwl amdano fo. Odd nain yn un andros o gynnil efo bob peth. Cynilo'r cwbwl, yndê, a methu cynilo dim, chwadal nhw'n ddeud.', tra byddai Lewis Evans yn 'cymryd dipyn o lashied yn amal iawn ... ond odd o'n rêl cybydd [mewn] rhyw ffordd hefyd ...'

Un fersiwn arall yn unig o'r stori hon a recordiwyd gan Amgueddfa Werin Cymru, ond nid yw'n cyfateb yn agos. Gw. tâp AWC 2631 (Cellan, sir Aberteifi). Am fersiynau Saesneg, gw. Briggs, cyf. 2B, tt. 110-12 ('The Grey Mare is the Better Horse') a t. 115 ('The Henpecked Husband'). Roedd 'The grey mare is the better horse' yn ddywediad cyffredin yn Lloegr i ddisgrifio aelwyd lle roedd y wraig yn feistr.

Teipiau

AT 1366 A Chwilio am ŵr sy'n feistr. Mae dyn yn berchen ar gannoedd o ieir a thri cheffyl. Rhaid iddo roi iar lle mae'r wraig yn feistr a cheffyl lle mae'r gŵr yn feistr. Mae'n methu chael gwared ag unrhyw un o'r ceffylau gan fod y wraig yn dweud wrth y gŵr pa un i'w ddewis.
AT 1375 Pwy a all reoli ei wraig? Mae gŵr yn gadael ei wraig ac yn dilyn cyngor ei dad-yng-nghyfraith ac yn teithio ar draws y byd gyda basged wyau i chwilio am ŵr a all reoli ei wraig. Mae'n dychwelyd at ei wraig ar ôl blwyddyn wedi methu a dod o hyd i ŵr o'r fath.

Motifs

AT 1375 Pwy a all reoli ei wraig? Mae gŵr yn gadael ei wraig ac yn dilyn cyngor ei dad-yng-nghyfraith ac yn teithio ar draws y byd gyda basged wyau i chwilio am ŵr a all reoli ei wraig. Mae'n dychwelyd at ei wraig ar ôl blwyddyn wedi methu a dod o hyd i ŵr o'r fath.