Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrRobin Ddu a'i Frodyr
Lewis T Evans (1882-1975)
Odd dau frawd iddo fo [Robin Ddu] isho câl madal â fo, 'ndê, a be ddarun nhw - odd gynnyn nhw fuwch bob un - ond lladd buwch Robin, i gâl madel â fo. A Robin yn blingo'r fuwch, a meddwl mynd â'r croen i'r farchnad. A rôth y croen a'i danu ar y wal am dim bach, a mi sgynnodd brân arno fo. Mi gâdd afel yn 'i choese hi, a mi âth â hi at dŷ y Person ... Pen gyrhaeddodd Robin Ddu i dŷ'r Person, [mi âth] i wrando wrth y drws, ac odd cariad y ferch yn y tŷ, a'i chariad hi yn rhoi canpunt iddi.
'Dewc, lle ro i nhw?', bedde hi.
'O, rhowch nhw o dan garreg yr aelwyd', be y llanc 'ma.
A ma fo'n rhoi pwys o de iddi wedyn.
'Lle ro i hwn?' bedde hi, 'mi wêl o hwn, ma'n siwr'.
'O, tarwch o'n y cwpwr 'ne. Wêl o mono fo.'
Felly fu. Ond, dewch! dyma'r ferch yn gweld 'i thad yn dwad.
'Ewedd annwl! ble'r â i?', bedde fynte.
'Cerwch i'r ffwrnes 'na', bedde hithe, 'mi gaea i arnoch chi.'
Felly fu, a dyma aros y Person i fewn i'r tŷ. Dyma fo [Robin] yn cnocio'n y drws.
'Be ti isho, Robin?'
'O, peth neith ddeud pob peth ydi hon', bedde Robin.
'Na, hen frân ddu 'di honne', be fo, 'neith o ddeud dim byd.'
'Neith. Gadwch i mi gâl deud rwbath wrthoch chi.'
Gwasgodd Robin 'i chorn gwddw hi:
'Waac', be'r hen frân.
'Be ma hi'n ddeud rwan?'
'Wel, ma 'ne bwys o de yn y cwpwr.'
Âth 'rhen Berson i'r cwpwr:
'Wel, diawch, ma rwbeth ynddi', be fo. 'Gna iddi ddeud rwbeth eto.'
Mi wasgodd 'i chorn hi.
'Waac!' be hi.
'Be ma hi'n ddeud rwan?'
'Codwch chi garreg yr aelwyd', be fo, 'ma 'ne ganpunt yno.'
Mi gododd 'rhen Berson garreg yr aelwyd.
'Wel, duwedd annwl', be fo. 'Wel, dyne hi', be fo. 'Mi gei di rhein bob dime amdani. Gna iddi ddeud un peth eto cyn mynd oddma.'
'Wel, rhowch chi ffagal o dan y ffwrnes', be Robin, 'mi ddaw 'no gythrel allan.'
A dyma nhw'n rhoi ffagal dan y ffwrnes, a dyma'r ceuad yn codi a'r hen foi yn
'i fflamio hi i ffwrdd. A dyne ddiwedd y peth, ac mi ddôth Robin â'i
ganpunt adre, 'ndê. ...
ôn nhw [ei frodyr] wedi bethma Robin, ac am 'i luchio fo i'r môr, yndê. Ar y ffordd wrth fynd â fo mewn sach i'r môr, mi ddarun nhw droi i mewn i ryw dafarn am lashied. Odd ryw hen wraig yn pasio, a dyma Robin yn gweiddi:
'Dw i'n mynd i'r ne, rwy'n mynd i'r ne.
Pwy ddaw yma yn fy lle?'
'O! ddo i', be'r hen wraig, 'a mi gei y cant defed 'ma'. Ac felly fu.
'Byddwch chi reit ddistaw', be Robin, a mi gaeodd arni yn y sach.
Wedyn mi ddôth y ddau [frawd] o'r dafarn.
'Dewc, ma hwn wedi 'sgafnu, fachgen. Ma'r glashied cwrw 'na wedi'n mendio
ni.'
Ac mi âth Robin â'r cant defed hynny adre beth bynnag, a mi ddarun
nhw [y brodyr] luchio'r hen wraig i'r môr, yn meddwl na Robin odd
o. A ddoethon nhw adre wedyn, a pwy odd ar y buarth efo cant o ddefed ond Robin.
'Lle gest ti rheina, Robin?'
'Yn y môr', be Robin.
'Oes 'no chwaneg?'
'Oes, faint fynnir.'
'Duwedd, lluchia ninne 'no!'
Ac felly fu. Luchiodd un, beth bynnag.
'Owowow', be hwnnw'n boddi.
'Be mae o'n neud rwan, Robin?'
'O, pigo'r defed brasa.'
'O, lluchia finne 'no cyn iddo fo gâl y cwbwl', bedde'r llall.
Ac felly fu. Mi luchiodd Robin y ddau frawd ac mi gâth fynd adre at 'i gant o ddefed. Dene hynny o stori glwesh i am Robin Ddu.
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 1650. Recordiwyd 19.ix.1967. Ail recordiwyd 7.xi.1973 (t?p AWC 4050)Nodiadau
Mae'r stori hon yn perthyn i gynhysgaeth helaeth ewythr dall Lewis T Evans, o'r un enw ag ef, sef Lewis Evans, Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer. Roedd Lewis Evans yn frawd i fam y siaradwr, a bu'n ddall ers pan oedd oddeutu pymtheg i ugain oed. Bu farw pan oedd tua deugain oed (c. 1897?). Roedd Lewis T Evans ei hun wedi bod yn byw yn Hafod Llan Isa pan oedd tua naw i ddeg oed, yn ystod gaeaf 1891-2. Aeth yno'n was bach ar ôl gadael yr ysgol i helpu ei ewythr dall ar y fferm. Roedd hyn yn ystod 'blwyddyn yr eira mawr'. Ar yr aelwyd hefyd yr adeg honno roedd yr howsgipar, Elin Lloyd (merch Robert Lloyd, Tŷ Newydd, Llechwedd) a Wil ac Annie, cefnder a chyfnither Lewis T Evans, y ddau wedi cael eu magu gan eu nain yn Hafod Llan Isa. Ymfudodd y ddau i Awstralia, ac yno y claddwyd hwy. Âi Lewis T Evans at ei ewythr hefyd o'r ysgol, yn hogyn tua wyth i naw mlwydd oed: 'mynd yno efo'r gwair a felly'. Tybiai mai dyna pryd y clywodd y stori am Robin Ddu a'i Frodyr.
Wedi adrodd stori'r 'Tri Llanc Direidus a'r Tafarnwr' (2.xi.1968), ychwanegodd Lewis T Evans wybodaeth bellach am yr aelwyd yn Hafod Llan Isa. Disgrifiodd fel y byddai ei ewythr dall yn eistedd yn ei gadair freichiau, yr ochr chwith i'r tân, tra byddai ef a Wil ei gefnder a'i gyfnither yn eistedd ar y setl: '[We]dyn, odd 'ne sgrîn yr ochor arall a finne a Wil a 'nghnither yn eiste ar honno, 'ndê' ... ac Elin Lloyd, yr howsgipar, yn aml iawn o flaen y tân efo pobol ddiarth, ne rwbeth felly.' Roedd ei nain, sef Ann Evans (merch Hendre Glan Alwen, Llanfihangel), hefyd yn fyw pan aeth Lewis T Evans i Hafod Llan gyntaf, ond bu hi farw tra bu ef yno: 'Ôn i yno pen fuo hi farw, i chi. Syrthio i lawr, câl strôc, a farwodd ar un waith, 'tê.' Roedd ei daid (mab y Crown, Llanfihangel) wedi cael ei gladdu rhyw bum mlynedd ynghynt. Roedd ei daid a'i nain wedi symud i Hafod Llan yn syth ar ôl iddynt briodi. Arhosodd Lewis Evans, yr ewythr dall, yn Hafod Llan am rai blynyddoedd wedi marw ei fam (nain Lewis T Evans), cyn symud at ei frawd, 'ewythr Sam', i Fforest, Llansannan. Eglurodd Lewis T Evans sut y daeth i dreulio gaeaf 1891-2 yn Hafod Llan. Roedd Wil, ei gefnder, ddwy flynedd yn hŷn nag ef ond heb gael unrhyw ysgol: 'Dyne sut dois i yno [i Hafod Llan Isa] mewn ffordd. Odd o erioed 'di câl awr o ysgol, ac odd o'n ddwy flynedd yn hŷn na fi. Mi es i yno er mwyn iddo fo gâl gaea' - dim ond y gaea'- yn ysgol Cerrigydrudion. A dene hynny gadd o, ddim ond hanner blwyddyn gaea'. Roedd Annie Evans, cyfnither Lewis T Evans (merch ei fodryb Marged) flwyddyn yn iau nag ef, ac roedd wedi treulio blwyddyn yn Ysgol Glasfryn.
Roedd Lewis Evans, yr ewythr, yn hoff iawn o ddarllen pan oedd yn fachgen ifanc, yn enwedig nofelau a phamffledi, ond credai ei nai iddo glywed y rhan fwyaf o'r straeon gan gyfeillion a chymdogion, gŵr megis y bardd Huw Jones, Hendre Ddu, Pentrellyncymer, a Dafydd Llwyd, Elusendai, Cerrigydrudion, a fu'n was fferm ym Mhentrellyncymer. Bu Huw Jones yn byw'n ddiweddarach mewn tŷ o'r enw 'Y Bŵt', ym Mhentrellyncymer. Roedd Hafod Llan Isa yn gyrchfan boblogaidd i'r gymdogaeth, ac roedd adrodd straeon yn rhan bwysig o ddifyrrwch y noson. Ambell waith, byddai'r ewythr dall yn adrodd stori i'w nai ar yr amod y byddai'n gweithio'n galed drannoeth. ' "Os gweithi di reit dda, mi dduda i stori-a-stori wrthat ti heno", fydde hi. Wedyn mi fyddwn yn 'i ben ar ôl swper i gâl y stori allan, 'ndê.' Byddai Lewis T Evans a Wil, ei gefnder, yn cael eu hannog i ddarllen pennod o'r Beibl bob nos. Câi'r Lewis ifanc aros ar ei draed nes y byddai pawb arall yn mynd i'w gwelyau. Rhannai ystafell â'i ewythr di-briod, ac roedd cael bod yn ei gwmni yn ddylanwad pwysig. Pan gafodd ei gyfweld ymhen tri chwarter canrif roedd yn dal i gofio o leiaf 36 o storïau a adroddwyd gan ei ewythr. Roedd y storïau hyn wedi eu serio ar gof y bachgen ifanc am eu bod, meddai, yn apelio ato ac oherwydd iddynt gael eu hadrodd mewn ffordd mor ddifyr. Roedd iddynt hefyd neges bwysig.
Dyma rai sylwadau pellach oedd gan Lewis T Evans i'w gwneud yn benodol am stori Robin Ddu a'i Frodyr:
'Ôch chi'n hoffi stori Robin Ddu?
Ewc! Oeddwn.
Oedd ych ewyrth yn dweud rywbeth ble oedd o wedi'i chlywed hi?
Nagoedd. Na, odd o byth yn deud.
Ar min nos fydde fo'n adrodd y stori fwya?
Ia, siwr. Ar ôl swper, yndê ...
Sut bydde'ch ewyrth yn adrodd y stori am Robin Ddu, rwan? Fydde fo'n ista lawr?
Bydda. Bydda.
Pa fath o arddull oedd gynno fo?
O, dim rw lawer o arddull anghyffredin. Oedd o reit dda am ddeud stori. Ma 'ne gamp ar ddeud stori, 'ndoes, ofnadwy.
Fydde fo'n ddramatig?
Fydde'n medru darlunio reit dda. Ond y gore am ddeud stori fydde Robert Morus, Creigie Bleiddie ....
Sut oedd hi rwan efo'r stori 'ne [Robin Ddu a'i Frodyr] ... Glywsoch chi hi gan rywun arall?
Na, chlwesh i byth moni wedyn.
A ddaethoch chi ddim ar 'i thraws hi mewn llyfr chwaith?
Naddo, byth.
'Na chi. Pryd ddaru chi adrodd y stori 'na ddiwetha?
Ddwytha? Ew, wn i'm fuesh i'n 'i hadrodd hi, ai pidio. Sna fuesh i'n adrodd hi i'r plant 'ma rwdro pên ôn nhw'n fychin, ndê [c. 1930 - 1945] ...
Be fyddech ewyrth yn galw'r stori ...?
Glywesh i mono fo'n rhoi ddim enw ddim byd arni, ond 'Robin Ddu a'i Frodyr', yndê.'
Y mae'r ail recordiad o hanes Robin Ddu a'i Frodyr (Tâp AWC 4050) a wnaed chwe blynedd yn ddiweddarach yn cynnwys nifer o wahaniaethau sylfaenol o ran strwythur a manylion y stori. Yn y fersiwn hon, ceir awgrym ar ddechrau'r stori pam yr oedd y ddau frawd yn awyddus i gael gwared â Robin: '... beth bynnag a wnâi'r ddau frawd, odd Robin yn ffwndro bob peth'. Dywedir yn y fersiwn hon fod Robin yn crio wedi i'r brodyr ladd ei fuwch. Yn y fersiwn gyntaf, mae'r storïwr wedi anghofio bod Robin yn clywed merch y Person a'i chariad yn siarad cyn iddo gael sgwrs â'r Person, ac mae'n gorfod dychwelyd at y rhan hon o'r stori: 'O ia, pen gyrhaeddodd Robin Ddu i dŷ'r Person [mi âth] i wrando wrth y drws, ac odd cariad y ferch yn y tŷ, a'i chariad hi yn rhoi canpunt iddi.' Cofiodd am hyn yn yr ail fersiwn. Er mwyn rhediad y stori, felly, hepgorwyd y geiriau a ganlyn, sef sgwrs Robin a'r Person am y frân:
... a chnocio'r drws.
'Be 'di honne, Robin? Be sgin ti, Robin?' be fo.
'[Rhywbeth] neith ddeud pob peth', be Robin.
'Dow! hen frân ddu 'di honne.'
'Nage!'
'O, ia ....
Yn y fersiwn gyntaf o'r stori mae cariad merch y Person yn rhoi canpunt ac yna pwys o de iddi i'w cuddio cyn iddo ef ei hun fynd i ymguddio yn y ffwrnais, tra yn yr ail fersiwn dywedir iddo roi pwys o de iddi ac yna'r canpunt, ond nid oes sôn yma i'r cariad fynd i guddio yn y ffwrnais (er ei fod yn dianc oddi yno yn ddiweddarach). Fodd bynnag, yn y rhan o'r stori pan fo'r frân yn 'siarad', mae'r ddwy fersiwn fel ei gilydd yn dilyn yr un drefn ac yn datgelu i ddechrau fod pwys o de yn y cwpwrdd ac yna fod canpunt dan yr aelwyd. Ni wneir unrhyw sylw yn y fersiwn gyntaf wedi i gariad y ferch ruthro allan o'r ffwrnais, ond yn yr ail fersiwn meddai'r Person: 'Wel, wir ... dene'r ymadawiad gore giesh i'n fy mywyd rioed.'
Nodir yn y fersiwn gyntaf i Robin brynu cant o ddefaid ar y ffordd adref, ond ni cheir sôn am y defaid yn y rhan hon o'r stori yn yr ail fersiwn, a dywedir i Robin fynd â'r canpunt adref gydag ef. Er mwyn rhediad naturiol y stori, felly, ni chynhwyswyd yn y testun a olygwyd y cyfeiriad at Robin yn prynu'r defaid â'r canpunt. Nodir yn glir yn yr ail fersiwn i'w frodyr fynd i gwrdd â Robin: 'mi âth 'i frodyr i gwr' o.' Mae'r brodyr yn y ddwy fersiwn yn penderfynu boddi Robin ac maent yn ei roi mewn sach ac yn mynd ag ef tuag at y môr, gan aros mewn tŷ tafarn ar y ffordd. Daw hen wraig heibio a chlywed Robin yn gweiddi ei fod yn mynd i'r nef a gofyn pwy a aiff yno yn ei le. Yn y fersiwn gyntaf, mae'r hen wraig yn dweud ei bod hi'n barod i fynd i'r nef, ac y caiff Robin y defaid, ond sylwer mai gan Robin yr oedd y defaid yn ôl yr adroddiad cyntaf o'r stori. Yn yr ail fersiwn, wedi i'r hen wraig ddweud 'O! ddof i', nodir bod ganddi gant o ddefaid, er na ddywedir yn benodol yn y fan hon ei bod yn eu rhoi i Robin yn dâl am gael cyfnewid lle ag ef. Yn y fersiwn gyntaf, mae Robin yn mynd â'r defaid adref ac mae'r brodyr yn dychwelyd ar ôl lluchio'r sach i'r môr, ac yna yn gweld Robin ar y buarth gyda'i ddefaid. Yn yr ail fersiwn, fodd bynnag, mae Robin yn dychwelyd adref fore drannoeth 'a chant o ddefed odd 'rhen wraig wedi'u rhoi iddo fo'. Sylwer mai yn y rhan hon o'r stori y ceir cadarnhad i'r hen wraig roi'r defaid iddo. Dywedir yn y fersiwn gyntaf i Robin brynu cant o ddefaid gyda'r canpunt a gafodd am y frân. Mewn adroddiad o'r stori cyn y recordiad o'r ail fersiwn, soniodd Lewis T Evans am y brodyr yn gofyn i Robin o ble y cafodd y canpunt, ac iddo yntau ddweud iddo gael yr arian yn dâl am y croen, ond ni chrybwyllir hyn yn ystod y recordiad ei hun. Nid yw'r sylw hwn yn berthnasol yn y fersiwn gyntaf, wrth gwrs, gan i Robin brynu'r defaid â'r arian. Mae Robin yn lluchio'r brodyr i'r môr ac, yn ôl y fersiwn gyntaf, 'mi gâth fynd adre at 'i gant o ddefed', tra yn yr ail fersiwn: 'A 'dyn mi âth Robin adre ac i fyw yn fforddus ar 'i gan punt a'i gant dafad.'
Yn ogystal â'r gwahaniaethau o ran strwythur a manylion y stori, ceir gwahaniaethau sylweddol yn y naratif a'r ddeialog. Sylwer i gychwyn ar y gwahaniaeth yn y ddeialog o fewn yr un fersiwn o'r stori. Fe gofir i Lewis T Evans yn y fersiwn gyntaf anghofio bod Robin yn clywed merch y person a'i chariad yn siarad cyn iddo gael sgwrs â'r Person, ac iddo orfod dychwelyd at y rhan hon o'r stori. Ceir dwy fersiwn felly o ran gyntaf ei sgwrs â'r Person, a gellir gweld o'r testun fod y ddeialog yn amrywio cryn dipyn. Dyma hanes Robin yn mynd â'r frân i dŷ'r Person yn yr ail fersiwn o'r stori ar dâp 4050 a gwelir bod cryn wahaniaeth yn y ddeialog yma eto:
'Mi gâth Robin afel yn 'i thraed hi, a mi âth â hi i dŷ y Person, a gwrando wrth y drws, ond odd y Person ddim yno, ddim ond cariad y ferch. ... Rôth 'i chariad hi bwys o de iddi:
'Wel, lle ro i o?' bedde hi.
'Rhowch o yn y cwpwr 'ne', bedde 'i chariad.
A [mi rôth] ganpunt iddi wedyn.
'O! Wn i ar dduar be 'na i efo rhein', be hi.
'Mi godwn ni garreg yr aelwyd', be ynte, 'mi rown ni nhw dan fanno'.
A, beth bynnag a fu, dyma'r Person yno.
'Be sgen ti, Robin?'
'Un neith ddeud pob peth', be Robin.
'Dw! hen fran ddu 'di honne. Neith honne ddeud dim byd.'
'Gadwch iddi ddeud rwbeth rwan', medde Robin, a mi wasgodd 'i chorn gwddw hi.'
Cofiodd Lewis T Evans y stori am Robin Ddu a'i Frodyr wrth iddo sôn am un llyn arbennig ar Fynydd Hiraethog:
'Oes 'na ryw lyn o gwbwl yn y cylch yma, a ryw draddodiadau amdano fo?
Wel, ma Llyn Dau Ychen o'n i'n sôn amdano fo, ond ma hwnnw wedi câl 'i gau i fyny. Odd o'n glamp o lyn. Dwi'n gofio fo. Fyddwn i'n pysgota 'no fo ac yn sglefrio 'no ac yn bethma chwid gwylltion ac ati, 'ndê. Odd o rw beder acer i bump o faint. O, mi ddaru Gwaith Dŵr 'ne [Gwaith Dŵr Llyn Alwen] i gau o i fyny efo mowndir, a ma nhw wedi plannu coed drosto fo rwan. Does ne ddim hanes amdano fo. Llyn Dau Ychen odd 'i enw fo. A'r traddodiad odd bod ... Robin Ddu wedi rhoi'r diafol ar gefn dau ychen ... a'u boddi nhw yn y llyn. ... Ond y peth am y Llyn Dau Ychen 'ma - 'Llyn y Ddau Ychen' fasan nhw'n ddeud amdano fo felly, 'ndê, ond Llyn Dau Ychen glwesh i riôd amdano fo, ar hyd yr oes. ... Ystyr y gair 'ychen' ydi 'tarddiad'. Rodd o'n llyn â dau darddiad ohono fo. Odd un yn mynd i lawr am Fynydd Tai'n y Foel, a'r llall yn mynd i Afon Alwen, 'rochor arall, ac felly odd o'n `llyn dau ychen', 'dê, dau darddiad. Odd y Pabyddion odd yn rhoi enwe ar y llefydd, oddan nhw'n sgolars, yndoddan nhw, go arw.
Glywsoch chi sôn o gwbwl i ba gyfnod y ma Robin Ddu yn perthyn?
Naddo, chlwish 'im am bwy adeg odd o'n perthyn, 'dê, ond odd 'na lawer iawn o chwedle ynglŷn â Robin Ddu yndoedd? Robin Ddu Ddewin, 'dê. ... Odd 'na Robin Ddu arall hefyd, yndoedd, blaw Robin Ddu Ddewin ...
Beth ydi'r sôn dech chi 'di glywed am Robin Ddu?
Wel, [mae yna] lawer iawn o chwedle am Robin Ddu efo ... dwyn y fodrwy, a [b]allu, 'ndoedd.
Mm. Dech chi wedl clywed rhein, ne wedi'u darllen nhw yn Cymru Fu?
Wedi'u darllen nhw yn Cymru Fu. Ia.
'Na chi. Ôs 'na ryw stori 'dech chi wedi glwed?
Glewish stori amdano fo, Robin Ddu, 'i dad wedi roi o i gadw brain ar ddydd Sul allan o'r ŷd.
Ie, 'na chi. Rwbeth arall dech chi 'di glwed am Robin Ddu?
Nagoes ... Wn im, ma 'na lawer iawn o ryw bethe.
Oddne sôn 'i fod o wedi dod i'r cylch yma o gwbwl i ddewino?
Ddâth o ddim ... Nid y fo ddaru ddal y brain ...? Odd dau frawd iddo fo isho câl madal â fo ...' [Gw. Stori Robin Ddu a'i Frodyr]
Mae'r cymeriad Robin Ddu yn ymddangos mewn nifer o chwedlau a thraddodiadau Cymraeg. Gweler, er enghraifft, Isaac Foulkes, Cymru Fu, Wrecsam, 1862, tt. 236-44. Cyfeirir ato fel rheol fel Robin Ddu Ddewin, gŵr sy'n gallu proffwydo'r dyfodol a darganfod trysor coll. Cysylltir ef â Robin Ddu ap Siencyn Bledrudd o Fôn, fl. c. 1450, awdur nifer o gywyddau brud. (Gweler Emyr Wyn Jones, 'Robin Ddu's Prophecy and "Our Lady's Lap", Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir y Fflint, cyf. 29, 1979-80, tt. 19-50.) Caiff rhai o'r storïau am Robin Ddu eu cysylltu hefyd â bardd a theithiwr o Gaernarfon sy'n perthyn i gyfnod llawer mwy diweddar, sef Robert Parry, 'Robin Ddu Eryri' (1804-92). Cyfeiria Robert Parry yn ei hunangofiant at Robin Ddu, y bardd a'r dewin, fel 'Robin yr Addig [Robin Ddu Hiraddug]'. Mae'n crybwyll rhai o'i straeon, straeon y dywed iddynt gael eu llunio gryn ugain mlynedd cyn iddo ef [Robin Ddu Eryri] gael ei eni, ond a briodolwyd iddo ef, Robert Parry, gan rai a ddylai wybod yn well. (Gweler Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri, Hugh Humphreys, Caernarfon, 1857).
Am ddwy stori arall a adroddir gan Lewis T Evans, ac a gysylltir â Robin Ddu Ddewin, gw. eitemau 'Robin Ddu yn Gyrru'r Brain i Sgubor' ac eitem 'Robin Ddu Ddewin a'r Deryn o Dan y Fowlen'. Am un hanes pellach a adroddir gan Lewis T Evans, gw. tâp AWC 1650:
'Oes 'na ddim traddodiad arall am Llyn dau Ychen, nagoes?
Nagoes.
Glywais i sôn bod Robin Ddu wedi proffwydo yr euthe Llyn y Ddau Ychen ryw ddwrnod cyn lleied â cheuad beudde.
O, ia, glwesh inne'r stori honno. Ne lygad giâr, un o'r ddau [Chwerthin].
Dychwel wna Llyn Dau Ychen - hyd wely
Cadwalad Graig Erchen, be fo,
A chwery uwch merch yr hen
Harri Go a gwraig Ŵen.
Wedyn odd o'n agor ar ôl mynd gin lleied â chauad budde, ndê ...
Gan bwy glywsoch chi hyn?
Y stori yne? O, 'run un, Lewis.
Wel, odd pobl yn credu hyn rwan, felly? Glywsoch chi sôn o gwbl?
Fyddan rw fath o gredu o. Y bobol ochor Hafod Elwy 'na a Chefn Brith, ffor' yne'n credu yr âi Llyn Dau Ychen 'ma - bod o'n mynd yn llai bob blwyddyn. ôn nhw'n deud hynny. Ond hwyrach odd hynny'n bod [oherwydd] rhediad y dŵr yn mynd yn ddyfnach, yndê, o bopdu o hyd. Wedyn odd o yn nesu at 'i gilydd, yndodd o. Ond mi ceuodd Mc Alpine o wrth glirio'r mowndir [adeg paratoi'r argae yng Ngwaith Dŵr Llyn Alwen, 1911-16].'
Am fersiynau eraill o stori 'Robin Ddu a'i Frodyr' a recordiwyd ar dapiau Amgueddfa Werin Cymru, gw.
- 'Stori Twm, Dai a Siôn a'r Tri Llo Coch', gan Kate Davies, Pren-gwyn, Llandysul.
- 'Stori Nopyn a'i Frodyr', gan Martha Williams, Llandanwg, Harlech.
Am fersiynau printiedig o Gymru o'r stori hon, gw.
- 'The Fool and the Sheep', Journal of the Gypsy Lore Society, III, 1909, t. 17. Gweler hefyd Francis H Groome, Gypsy Folk Tales, Llundain, 1963, tt. 262-3, ac A O H Jarman ac Eldra Jarman, 'Y Ffŵl a'r Defaid', Y Sipsiwn Cymreig: Teulu Abram Wood, Caerdydd, 1979, tt. 164-5.
- 'The Three Brothers', T Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom, Llundain, 1930, tt. 225-7.
Am fersiynau o Loegr a Gogledd America, gw. Katharine M Briggs, A Dictionary of British Folk Tales in the English Language, cyf. A2, Llundain, 1970, tt. 262-3, ac Ernest W Baughman, A Type and Motif - Index of the Folklore of England and North America's - Gravenhage, 1966, t. 38
Teipiau
AT 1535 |
Motifs