Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Tri Brawd yn Gwneud eu Ffortiwn

Lewis T Evans (1882-1975)

[Roedd 'no] ŵr, odd gynno fo dri o feibion yn byw yn Tan y Bwlch, ac mi nâth 'i ewyllys. Ceiliog a chath ac ysgol odd gynno fo ar 'i elw. Ac mi nâth y gath i un ohonyn nhw. Rown ni fo'n John. Ac mi nâth y ceiliog i Wiliam, ac mi nâth yr ysgol i Robert. Dyna fo, ia?

Wedyn, mi gychwynnodd [John] efo'r gath ar 'i gefn i wlad na doedd 'na ddim cathod. A phan gyrhaeddodd o mi gâth lojin. A dyna lle'r odd o, a dyma'n nhw'n gofyn cyn mynd i'w gwlâu:

'Pwy neith aros ar 'i draed i watsho'r llygod heno?'

'O', bedde [John], 'dim ishio i neb aros ar 'i draed i watsho'r llygod. Mae gin i beth bach yn y sach 'ma ddalith bob llygoden.'

O, mi euson i'w gwlâu, yn fforddus 'dê. Erbyn iddyn nhw ddod lawr o'u gwlâu odd llygod wedi'u lladd ymhob man hyd y llawr.

'Dewc annwyl!', be nhw. 'praint gymwch chi amdano fo?'

'Wel, canpunt ydyn nhw'n y wlad acw', be fo, yndê.

O, oddan nhw'n reit fodlon, ac mi gâth ganpunt. Wedyn mi âth adre.

Pan gyrhaeddodd o adre mi âth y llall [Wiliam] â'r ceiliog i wlad nad oedd 'no ddim clogod. Ac mi gâth lojin, a cyn mynd i'w gwlâu, dyma'n nhw'n gofyn:

'Pwy neith aros ar 'i draed i watsho'r dydd heddiw?'

'O', be fynte, 'dim isho neb watsho'r dydd heddiw. Mae gin i beth bach yn y sach 'ma neith ganu pan ddaw hi'n ddydd.'

Ewc, oddan nhw'n falch ofnadwy, ac [roddan nhw wedi bod] yn paffio â'i gilydd [yn dadlau] pwy fydde'n aros ar 'i draed i watsho'r dydd, yndê. A dyne fo. Mi euson i'w gwlâu i gyd. A bore, beth bynnag, mi dorrodd y wawr, dyma'r ceiliog yn canu, a phawb yn deffro. Annwyl! Oddan nhw 'di rhyfeddu.

'Praint gymwch chi amdano fo?', be nhw.

'Wel, canpunt yden nhw'n y wlad acw', be fynte.

Ewc, oddan nhw'n ddigon bodlon. Gâth ganpunt. Wedyn mi ddôth adre.

Wel, mi gychwynnodd y llall [Robert] wedyn efo'r [ysgol] i'r wlad lle nad odd 'no'r un ysgol. A gwrando [ar ben yr ysgol] wrth ryw dŷ, fel rhyw blas, a dyma nhw'n siarad â'i gilydd:

'Wyddon ni ar y dduar be nawn ni.'

Oedd gwraig y gŵr bonheddig yn sâl ofnadwy, 'ndê. Ac oddan nhw'n disgwyl specialist. Ac mi gnociodd ynta'n drws, ac mi ddudodd mai specialist odd o. Mi âth i olwg y wraig, beth bynnag, ac mi ecsamniodd ryw ychydig arni, 'ndê:

'O, mae hi'n olreit. Fydd yn olreit ymhen ryw hyn a hyn o amser', 'ndê.

'O! faint ydi'r gost?' bedde'r gŵr bonheddig.

'Canpunt, os gwelwch chi'n dda', eber o.

O, odd o'n reit fodlon talu canpunt. A dene odd hanes hwnne.

Recording

Tri Brawd yn Gwneud eu Ffortiwn

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 1736. Recordiwyd 11.xi.1967.

Nodiadau

Dywedodd Lewis T Evans iddo glywed y stori hon, fel cymaint o straeon eraill, gan ei ewythr Lewis Evans, Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer, tua 1891-2. Roedd yn bosibl fod Lewis Evans wedi ei chlywed gan Hugh Jones, y Bŵt, Pentrellyncymer, yn ystod ymweliad â'i gartref. Byddai Hugh Jones yn arfer 'deud rw beth ofnadwy o straeon wrthyn nhw'.

Roedd Lewis T Evans yn ymwybodol ei bod yn stori ryngwladol, ac ychwanegodd ei bod yn bosibl ei bod yn gyfieithiad o un o straeon Grimm. Fferm i'r gogledd o Gefn Brith oedd Tan y Bwlch, ac roedd Lewis T Evans yn credu ei bod yn debyg mai Lewis Evans ei hun a gysylltodd y stori â gŵr Tan y Bwlch. Ceir yr argraff nad oedd Lewis T Evans yn gyfarwydd ag enwau'r cymeriadau, a'i fod yn tueddu i feddwl amdanynt fel y tri mab neu'r tri brawd. Fe gofir ar ddechrau'r stori iddo ddweud bod gan ŵr Tan y Bwlch dri o feibion: 'Ac mi nâth y gath i un ohonyn nhw. Rown ni fo'n John. Ac mi nath y ceiliog i Wiliam, ac mi nâth yr ysgol i Robert.' Mae'n lled debyg iddo benderfynu ar enwau'r meibion yn y fan a'r lle, ac mae hyn yn esbonio sut y gwnaeth gamgymeriad wrth adrodd y stori. Mae'n adrodd hanes y brawd cyntaf yn mynd ymaith gyda'r gath, ond yn cyfeirio ato fel Wiliam: 'Wedyn, mi gychwynnodd Wiliam efo'r gath ar 'i gefn ...'. Wiliam hefyd sy'n dweud nad oes raid i neb aros ar eu traed i wylio'r llygod. Pan ddaw i adrodd hanes yr ail frawd, mae eisoes wedi defnyddio enw Wiliam, ac mae'n cyfeirio ato fel y 'llall'. Gwna yr un modd wrth adrodd hanes y trydydd brawd. Nid yw'n sôn am John na Robert ar ôl eu henwi'r tro cyntaf.

Am fersiynau Saesneg, gw. Briggs, cyf. B2, tt. 139-45; Baughman, tt. 42-3; a W A Clouston, Popular Tales and Fictions: Their Migrations and Transformations, Llundain, 1887, cyf. 2, t. 65. Yn y fersiynau Saesneg, cysylltir y stori â Dick [Richard] Whittington a oedd, yn ôl pob tebyg, yn fab i Syr William Whittington o Pauntley, ger Newent, a Joan Mansell, a oedd yn ferch i siryf sir Gaerloyw. Erbyn 1379 roedd yn ddinesydd uchel ei barch yn Llundain ac yn briod â merch Syr Ovo Fizwaryn o Dorset, ond bu farw yn ddi-blant yn 1423. (Briggs, cyf. B2, t. 145)

Teipiau

AT 1650 Y tri brawd lwcus. Eu hetifeddiaeth oedd ceiliog, pladur, a chath. i. Yr etifeddiaeth. (a) Mae'r brawd hynaf yn etifeddu ceiliog, yr ail yn etifeddu pladur a'r brawd ieuengaf yn etifeddu cath. ii. Lwc. (a) Maent yn mynd i wledydd lle nad yw'r trigolion wedi clywed am yr anifeiliaid neu'r gwrthrychau hyn, ac yn eu gwerthu am bris mawr.
AT 1651 Cath Whittington. Mae'n mynd i wlad lle nad oes cathod, ac yn gwerthu'r gath am bris mawr. i. Etifeddu cath. Mae'r arwr yn etifeddu cath yn unig... ii. Gwerthu'r gath. Mae'n mynd i wlad llawn llygod a lle nad oes cathod ac yn gwerthu'r gath am bris mawr.

Motifs

AT 1651 Cath Whittington. Mae'n mynd i wlad lle nad oes cathod, ac yn gwerthu'r gath am bris mawr. i. Etifeddu cath. Mae'r arwr yn etifeddu cath yn unig... ii. Gwerthu'r gath. Mae'n mynd i wlad llawn llygod a lle nad oes cathod ac yn gwerthu'r gath am bris mawr.