Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrTrysor Tyddyn Cwtyn y Ci
Lewis T Evans (1882-1975)
Wel, mae Tyddyn Cwtyn y Ci yn Ysbyty Ifan. Tyddyn Cwtyn mae nhw'n 'i alw fo. Rodd 'no ryw ddyn yn byw yno. Clywed yr hanes [wnes i; chlywais i ddim beth oedd] enw'r dyn, yndê. Ond odd o'n byw yn Tyddyn Cwtyn y Ci. Ac odd o'n breuddwydio bob nos dase fo'n mynd i Bont Llunden byse fo'n gneud 'i ffortiwn.
Ac wedi blino breuddwydio o hyd, mi benderfynodd fynd, beth bynnag. Ac i Bont Llunden â fo, a cherdded ddiwrnod neu ddau. Dim byd tebyg i ffortiwn yn dwad, yndê. Ddôth 'no ryw ddyn i'w gwarfod o - Cymro.
'Helo', be fo. 'Dw i 'di'ch gweld chi'n cered nôl ac ymlaen hyd y fan 'ma bob dydd', be fo. ... 'Be 'dech chi yn cerdded nôl ac ymlaen o hyd?'
'O', bedde'r dyn. 'Ddim byd yn neilltuol', be fo. 'Ond, deud y gwir wrtho chi, mi ddaru mi ryw freuddwydio o hyd daswn i'n mynd i Bont Llunden baswn i'n gneud yn ffortiwn.'
'Twt, Twt!', bedde'r dyn. 'Peidiwch â gwrando ar ryw hen freuddwydion gwirion. Dw i wedi breuddwydio lawer gwaith', bedde fo, 'dyswn i'n mynd i ryw le o'r enw 'Sbyty Ifan ac i ryw ffarm o'r enw Tyddyn Cwtyn y Ci', bedde fo, 'a thurio dan ryw goeden 'fale, byswn i'n câl llond crochon o aur.'
'Mm', medde'r dyn wedyn, 'mi â i adre am wn i', be fo. 'Dw i ddim yn mynd i hwnne ddim chwaneg.'
Ac adre â fo, ac yn syth â chaib a rhaw i fôn yr hen goeden 'fale, beth bynnag, a dene lle'r oedd llond crochon o aur. A dene stori Tyddyn Cwtyn y Ci.
Recording
Trysor Tyddyn Cwtyn y Ci
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 2287. Recordiwyd 29.iv.1969. Ail recordiwyd 7.xi.1973 (T?p AWC 4051)Nodiadau
Clywodd Lewis T Evans y stori hon gan ei ewythr dall, Lewis Evans yn Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer, tua 1891. Byddai ei ewythr yn arfer adrodd y storïau hyn wrth Lewis T Evans a'i gefnder a'i gyfnither gyda'r nos cyn iddynt fynd i'w gwelyau: 'I'n difyrru ni rwsud'. Credai iddo glywed y stori hon 'chwaneg nag unweth'.
Ail recordiwyd y stori bedair blynedd a hanner yn ddiweddarach. Testun o'r recordiad cyntaf yw'r uchod. Yn yr ail fersiwn, nodir yn glir mai ar y trydydd diwrnod y daeth y dyn at ŵr Tyddyn Cwtyn y Ci, gan ddweud: 'Wel, Cymro dach chi.' ... 'Wel, be dech chi'n neud yn fan'ma, dwch, am dri dwrnod fel hyn?' Mae gŵr Tyddyn Cwtyn y Ci yn ei ateb, gan ddweud ei fod yn dod o Ysbyty Ifan, a'i fod wedi breuddwydio y byddai'n cael ffortiwn pe bai'n mynd i Bont Llundain. Yn y fersiwn gyntaf, mae Lewis T Evans yn dweud i'r Llundeiniwr ofyn i'r gŵr o ble roedd yn dod, ond mae'n cywiro ei hun yn syth: 'Naddo, im gofyn iddo o ble odd o'n dwad.' Nodir yn yr ail fersiwn i'r gŵr o Lundain freuddwydio fod 'yno gist a llond hi o sofrod' o dan wreiddyn y coed afalau, ac nid crochan â'i lond o aur fel yn y fersiwn gyntaf. Nodir hefyd i ŵr Tyddyn Cwtyn y Ci fynd adref drannoeth.
Enw ar fferm yn Ysbyty Ifan, sir Gaernarfon oedd Tyddyn Cwtyn y Ci, ond Bryntirion yw'r enw arni bellach, er bod rhai o'r trigolion hynaf yn dal i gofio'r hen enw, gan gyfeirio ati fel 'Ty'n Cwtyn' neu 'Tyddyn Cwtyn'. Ceir sawl cyfeiriad at Bont Llundain mewn chwedlau gwerin Cymraeg, ac yr oedd yn fan cyfarfod pwysig i'r Cymry a deithiai i Lundain.
Am fersiynau Cymraeg printiedig o'r stori hon, gweler Y Brython, cyf. 1, 1858, t. 162 (Craig y Dinas, Morgannwg), cyf. 2, 1859, tt. 200, 219 (Nant Gwrtheyrn a Llandwrog, sir Gaernarfon); D E Jenkins, Bedd Gelert: it's Facts, Fairies, and Folk-Lore, Porthmadog, 1899, tt. 135-7 (Aberdaron, sir Gaernarfon); J Jones, 'Myrddin Fardd', Llên Gwerin Sir Gaernarfon, Caernarfon, 1908, t. 204 (Glynllifon, sir Gaernarfon); a T Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom, Llundain, 1930, t. 92 (Glynllifon, sir Gaernarfon).
Am fersiynau Saesneg, gw. cyfeiriadau yn Briggs, cyf. A1, t. 62. Mae Robert Chambers yn nodi bod y stori hon i'w chael ym mron bob ardal yn yr Alban, ac mai Pont Llundain yw'r gyrchfan bob amser. (Gw. The Popular Rhymes of Scotland, Caeredin, 1826, t. 58.)
Teipiau
| AT 1645 | Y trysor gartref. Mae dyn yn breuddwydio bod trysor wedi ei guddio ar bont arbennig mewn dinas bell. Mae'n mynd yno, ond yn methu darganfod y trysor, ac mae'n sôn am ei freuddwyd wrth ŵr y mae'n ei gyfarfod yno, ac mae yntau'n dweud iddo gael breuddwyd debyg. Mae gŵr y ddinas yn disgrifio'r lle, ac mae'r gwladwr yn sylweddoli mai ei gartref ef ydyw. Mae'n dychwelyd adref ac yn dod o hyd i'r trysor. |
Motifs