Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Y Crëyr Glas, y Gath a'r Fiaren

Lewis T Evans (1882-1975)

Odd 'no grëyr glas, a cath a mieren. Odd y tri yn ffarmio. A be ddaru nhw, beth bynnag, ond rhoi'r gore i ffarmio a rhannu'r pres rhwngthyn - rhwng y tri. A be ddaru'r crëyr glas, beth bynnag, ond eu rhoi nhw mewn pwrs am 'i wddw, a gweld 'i lun yn yr afon wrth hedeg oducha, ac mi dorrodd y cortyn, ac mi gollodd y pwrs. Ac wedyn mae'r crëyr glas yn chwilio am y pwrs byth [ers hynny] o gwmpas yr afon. A ddaru'r gath brynu gwenith efo'i harian, ac mi futodd y llygod o i gyd, a dene lle mae'r gath 'ma mewn gelyniath ofnadwy i'r llygod byth. Ac mi rôth y fieren fenthyg 'i harian i ryw ddyn diarth. A wydde hi ddim pwy oedd o, beth bynnag, a dene lle mae hi'n bachu - cymryd gafel - ym mhob dyn fydd yn pasio, yn meddwl mai dyne'r dyn oedd hi 'di rhoi 'i harian iddo fo oedd o.

Recording

Y Cr

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 1845. Recordiwyd 13.iv.1968 Ail recordiwyd 7.xi.1973 (Tâp AWC 4052).

Nodiadau

Clywodd Lewis T Evans y stori hon gan ei ewythr dall, Lewis Evans, Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer. Recordiwyd y stori am yr eilwaith yn 1973. Cafodd Lewis T Evans ychydig o drafferth i gofio'r stori ar y cychwyn wrth wneud yr ail recordiad. Yn y fersiwn hon, dywed i'r tri chymeriad benderfynu ymddeol a rhannu'r eiddo rhyngddynt. Cafodd y gath y gwenith, a chafodd y crëyr glas a'r fiaren arian. Dywedir i'r llygod fwyta'r gwenith a bod y gath o hyn allan am ladd pob llygoden. Rhoddodd y crëyr glas yr arian am ei wddf, fel yn y fersiwn gyntaf, a thorrodd y cortyn, ac aeth yntau i lawr at yr afon i chwilio am yr arian. Ni chrybwyllir yn yr ail fersiwn iddo roi'r arian mewn pwrs, na'i fod yn gweld ei lun yn yr afon 'wrth hedeg oducha' pan dorrodd y cortyn. Mae'r rhan o'r stori sy'n adrodd hanes y fiaren yn cyfateb yn glòs i'r hyn a geir yn y fersiwn gyntaf.

Teipiau

AT 289 Yr ystlum, y deifiwr a'r llwyn drain yn cael eu llongddryllio. Mae'r ystlum yn dod ag arian gydag ef ar y llong, mae'r llwyn drain yn gwisgo dillad, ac mae'r deifiwr yn dod ? lledr gydag ef. Mae'r llong yn suddo. Mae'r deifiwr yn chwilio am ei ledr, tra bo'r llwyn drain yn chwilio am ei ddillad ac yn gafael ym mhawb sy'n mynd heibio. Mae'r ystlum yn mentro allan yn y nos yn unig, er mwyn osgoi y rhai y mae mewn dyled iddynt.

Motifs