Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Y Ddafatan Fach a'r Ddafatan Fawr Aeth i Gnoia

Gwilym Major (1906 - 96)

Y ddafatan fach a'r ddafatan fawr âth i gnoia. Gwmpodd y ddafatan fach lawr a dorres 'i phen. 'Wiw'! medde'r ddafatan fawr i mofyn blewyn gwyn oddar pen y llo i glymu pen y ddafatan fach sy draw yn y côd. A ma'r llo yn gweud: 'Na wna ddim, ma'r fuwch pallu rhoi llâth i fi.'

Y fuwch, y fuwch, rho lâth i'r llo. Y llo, y llo, rho blewyn gwyn oddar dy ben i glymu pen y ddafatan fach lawr yn y côd.
'Na wna ddim', [medde'r fuwch], 'ma'r mynydd yn pallu rhoi etlith i fi.'

Y mynydd, y mynydd, rho etlith i'r fuwch. Y fuwch, y fuwch, rho lâth i'r llo. Y llo, y llo, rho blewyn gwyn oddar dy ben i glymu pen y ddafatan fach sy draw yn y côd.
'Na wna ddim', medde'r mynydd, 'ma'r deryn yn pallu rhoi tiwn i fi.'

Y deryn, y deryn, rho diwn i'r mynydd. Y mynydd, y mynydd, rho etlith i'r fuwch. Y fuwch, y fuwch, rho lâth i'r llo. Y llo, y llo, rho blewyn gwyn oddar dy ben i glymu pen y ddafatan fach sy draw yn y côd.
'Na wna ddim', [medde'r deryn], 'ma'r crydd yn pallu rhoi sgitshia i fi.'

Y crydd, y crydd, rho sgitshia i'r deryn. Y deryn, y deryn, rho diwn i'r mynydd. Y mynydd, y mynydd, rho etlith i'r fuwch. Y fuwch, y fuwch, rho lâth i'r llo. Y llo, y llo, rho blewyn gwyn oddar dy ben i glymu pen y ddafatan fach sy draw yn y côd.
'Na wna ddim', [medde'r crydd], 'ma'r mochyn yn pallu rhoi gwrychyn i fi.'

Y mochyn, y mochyn, rho gwrychyn i'r crydd. Y crydd, y crydd, rho sgitshia i'r deryn. Y deryn, y deryn, rho [diwn i'r mynydd. Y mynydd], y mynydd, rho etlith i'r fuwch. Y fuwch, y fuwch, rho lâth i'r llo. Y llo, y llo, rho blewyn gwyn oddar dy ben i glymu pen y ddafatan fach sy draw yn y côd.
'Na wna ddim', medde'r mochyn, 'ma'r forwn yn pallu rhoi bwyd i fi.'

Y forwn, y forwn, rho fwyd i'r mochyn. Y mochyn, y mochyn, rho'r gwrychyn i'r crydd. Y crydd, y crydd, rho sgitshia i'r deryn. Y deryn, y deryn, rho diwn i'r mynydd. Y mynydd, y mynydd, rho etlith i'r fuwch. Y fuwch, y fuwch, rho lâth i'r llo. Y llo, y llo, rho blewyn gwyn oddar dy ben i glymu pen y ddafatan fach sy draw yn y côd.

A 'Wiw', medde'r forwn, â bwyd i'r mochyn. A 'Wiw', medde'r mochyn, â gwrychyn i'r crydd. A 'Wiw', medde'r crydd, â sgitshia i'r deryn. A 'Wiw', medde'r deryn, â diwn i'r mynydd. A 'Wiw', medde'r mynydd, â etlith i'r fuwch. A 'Wiw', medde'r fuwch, â llâth i'r llo. A 'Wiw', medde'r llo, â blewyn gwyn oddar 'i ben. A glymws ben y ddafatan fach odd draw yn y côd.

Recording

Y Ddafatan Fach a'r Ddafatan Fawr Aeth i Gnoia

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 6509. Recordiwyd 16.x.1981.

Nodiadau

Clywodd Gwilym Major y stori hon ar yr aelwyd yn Llwyn Gwladus, Llangynwyd, gan ei dad, Richard Major, a anwyd yn Llwyni, Maesteg. Ni wyddai Gwilym Major ymhle na sut y clywodd y llu o storïau a adroddwyd ganddo. Dyma'r tro cyntaf i Gwilym Major adrodd y stori arbennig hon ers 'blynydde mawr yn ôl, amser ôn i'n dre'. Pan ofynnwyd iddo sut yr oedd wedi'i chofio gystal, atebodd: 'Wel, allai ddim gweud wrthoch chi, ma pethach yn dod nôl i chi. Chi yn y gwely yn y nos weithie a chi'n meddwl am bethach, a ma pethach yn dod nôl i chi ondydyn nhw?'

O blith y geiriau tafodieithol yng nghyflwyniad llafar Gwilym Major, gellir nodi'n arbennig:

'etlith' = adlodd; gwair yn ail-dyfu wedi cael ei dorri y tro cyntaf.

Yn y testun uchod ni cheisiwyd 'cywiro' rhai enghreifftiau o gamdreiglo:

rho blewyn gwyn = rho flewyn gwyn
rho gwrychyn = rho wrychyn
â diwn i'r mynydd = â thiwn i'r mynydd

Ail-adroddir y stori gan Gwilym Major ar yr un tâp, gyda mân amrywiadau ac un llithriad (cymysgu rhwng y mochyn a'r crydd). Ail-adroddir y stori hefyd gan Gwilym Major, eto gyda mân amrywiadau, ar dâp AWC 7495, a recordiwyd 21.ix.1989. Yn y fersiwn hon 'y ddafatan fach odd (nid 'sy') draw yn y coed' a ddywedir. Am recordiad o'r un stori a wnaed gan Nia B. Richards, 30.xi.1979, gw. tâp AWC 6417.

Am fersiynau eraill o'r stori gynyddol hon a recordiwyd ar dapiau AWC, gw. Cassie Davies, Tregaron, eitem 'Yr Hen Wraig Fach a'r Oen', a Mary Thomas, Ffair-rhos, eitem 'Y Frân Fowr a'r Frân Fach yn Mynd i'r Coed i Gnoua'.

Teipiau

AT 2030 Yr hen wraig a'i mochyn.

Motifs