Storïau Gwerin

Nôl i Hafan Storiwyr

Y Tri Llanc Direidus a'r Tafarnwr

Lewis T Evans (1882-1975)

Odd 'no dri [llanc] wedi meddwl câl sbri, 'ndê. Eson nhw i dafarn a galw am dri peint:

'Y fi sy' i dalu', be un. 'Nage, fi', be'r llall. 'Nage fi', be'r llall. A thaeru y buon nhw.

'Wel', be un ohonyn nhw, 'dowch â thri eto, wedyn mi setlwn ni.'

A wedi iddyn nhw gâl tri wedyn:

'Fi sy' i dalu', be un.

'Nage, fi.'

'Nage, fi.'

'Nage, fi.'

A taeru mawr.

'Wel, dduda i chi be nawn ni', be un ohonyn nhw [wrth yr hen dafarnwr], 'Dowch chi â thri arall ... i ni. Wedyn, mi rown ni fwgwd arnoch chi a'r cynta rowch chi'ch llaw arno fo, hwnnw sy' i dalu am y cwbwl.'

Felly fu, beth bynnag. Odd mwgwd ar yr hen dafarnwr, [ac fe] slipiodd y tri allan wedyn. A dyne lle'r oedd yr hen dafarnwr yn balfala ac yn balfala rownd y rŵm, a rownd y rŵm.

'A be 'dech chi'n neud?' be'r wraig toc.

'Caewch ych ceg', medda fo.

'Os 'dech chi'n chwilio am y bobol 'na, ma nhw wedi slipio allan ers meitin.'

Mi dynnodd yr hen dafarnwr 'i fwgwd, beth bynnag.

'[Ma nhw] wedi ngneud i, ddyliwn', be fo.

Odd o 'di clywed nhw yn siarad â'i gilydd bod un ohonyn nhw'n mynd i Manchester drannweth. Ac odd o ddim yn byw ymhell iawn o Manchester, yndê. Mi benderfynodd fynd i Manchester. Odd gynno fo ryw fusnes yno hefyd. A diawch, y cynta' bron welodd o ar y stryd yn Manchester odd un ohonyn nhw.

'Dewedd annwyl', bedde'r hen fôi wrtho fo. 'Wel, 'den ni 'di câl hwyl, cofiwch, am ben chi [efo'r] helynt neithiwr', be fo, 'wedi câl hwyl am ych pen chi. Oes gynnoch chi newid cheque pumpunt?

'Nagoes, wir', medde'r hen [dafarnwr].

'O, dowch i siop 'y nghefnder i fanma, ac mi gâ' i 'i newid hi gin 'y nghefnder, ac mi dala i i chi.'

Ac felly fu. A phen odd o wrth ddrws ryw siop ciemist, beth bynnag, dyma fo yn deud wrth yr hen dafarnwr:

'Sefwch chi'n fanne am funud', be fo. Ac i fiewn â fo at yr hen giemist.

'Ma gen i ddyn yn fanma', be fo, 'allan 'ma â pocs arno fo. A fedrwch chi fendio fo?'

'O, medra', me[dde] ynte.

'Ma gynno fo faint fynnir o bres', be fo, 'ond ma fo'n swil ofnadwy. Ma gofyn i chi fod yn reit eger efo fo.'

'O, fydda i'n siwr ohono fo', medde'r hen giemist.

'Ma gynno fo faint fynnir o bres'. Wel, dyme'r hen foi allan.

'Cerwch i fiewn at 'y nghefnder', medde fo [wrth y tafarnwr], ma fo'n deud ['i fod o'n ych] nabod chi, a bod gynno fo isio sgwrs efo chi. A 'dw i wedi gadel y newid i chi. Ma newid gin 'y nghefnder.'

'Wel, ôlreit', be'r hen dafarnwr.

Mi fflamiodd yr hen foi i ffwrdd.

'O, chi 'di'r dyn?' bedde'r hen giemist.

'Ia', bedde fynte.

'O, dowch i'r rŵm naill du 'ma am dipyn bach', be fo. 'Dw i ryw brysur ofnadwy', be fo.

Felly fuo hi, a'r hen dafarnwr yn iste'n y rŵm i chi. Dyma'r hen giemist ato fo toc.

'Dech chi 'di câl ych gneud yn arw', be fo.

'O, ddim ond ryw sbort.'

'Nage. Dach chi 'di châl hi'n o arw', medde fo.

'Felly ma nhw'n deud', be fo.

'Wel, tynnwch ych trwsus.'

'Be 'di'ch meddwl chi ddyn?' bedde'r hen dafarnwr.

'Dim o'ch lol chi', bedde'r hen giemist. 'Tynnwch ych trwsus.'

Wel, dyma hi'n ymladd, beth bynnag. Ac ymladd mawr. Ac ymladd y buon nhw hyd lawr y rŵm. Ac felly. Ac yn ymladd y gadesh i nhw, beth bynnag, yn diwedd.

Recording

Y Tri Llanc Direidus a'r Tafarnwr

Mwy o wybodaeth

Tâp

AWC 2007. Recordiwyd 2.xi.1968. Ail recordiwyd 7.xi.1973 (tâp AWC 4052).

Nodiadau

Dyma stori arall a glywodd Lewis T Evans gan Lewis Evans, ei ewythr dall, yn Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer tua 1891-2. Gwnaed ail-recordiad o'r stori yn 1973 (tâp 4052). Yn y fersiwn hon, dywedodd Lewis T Evans ar y dechrau nad oedd gan y llanciau 'un geiniog o bres'. Drannoeth, wedi iddo gael ei dwyllo ganddynt, mae'n mynd i dref eithaf pell - ni nodir yma mai Manceinion yw - ac mae'n cyfarfod ag un o'r llanciau, ac mae'r llanc yn gofyn iddo a yw wedi gweld y ddau arall. Cyfeirir at 'afiechyd' y tafarnwr fel 'hen glwy' yn y fersiwn hon. Mae'r fersiwn gyntaf yn gorffen gyda'r fferyllydd a'r tafarnwr yn ymladd â'i gilydd, wrth i'r fferyllydd geisio tynnu trowsys y tafarnwr. Roedd Lewis T Evans, fodd bynnag, yn meddwl bod y stori yn gorffen yn rhy ddisymwth, ac fe roddodd ddiweddglo newydd iddi: 'Ew, mi âth yn ymladdfa rhyngthyn nhw, beth bynnag, a'r hen giemist yn gryfach na fo o dipyn. Mi dynnodd 'i drwsus o i ffwrdd, ac mi ddengodd yr hen dafarnwr allan heb yr un trwsus ac i ganol y stryd a'r bobol wedi 'i rowndio fo i gyd. Ac mi ddôth 'no blismon ac mi âth â fo i fiewn i'r lock up - wrande fo ddim ar 'i stori fo, 'ndê. A [we]dyn, fuo 'no gyfraith arno fo. Gostio talu ryw lot, dw i ddim yn cofio faint odd y fine, chwaith. A gyrru am y wraig i ddod â pres i lawr iddo fo gâl mynd adre rywsut. A dene'r stori i gyd.' Roedd Lewis T Evans wedi ychwanegu at y stori pan oedd yn ei hadrodd i'w gydweithwyr yn y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1930au.

Teipiau

Motifs