Storïau Gwerin
Nôl i Hafan StoriwyrCladdu'r Morwr o Wlad Bell
Thomas Davies (1901-82)
Wel, mae'n debyg bod 'na forwr wedi - corff morwr wedi câl 'i olchi i'r lan rhywle, mae'n debyg, yn ôl Griffiths, rhywle yn shir Aberteifi. A dyn dierth odd e, wrth gwrs. A, fel ma'r Cymry'n barod iawn i helpu, fe gasglodd pobol y lle tuag at 'i gladdu e. Ac fel digwyddodd hi, ar ddydd yr angladd, fe gafodd yr offeiriad 'i daro'n sâl, a dodd neb 'na i gymryd y gwasanaeth. A wydden nhw ddim yn iawn beth i'w neud. A wedodd un o'r blaenoried wrth y saer:
'Dyn dierth yw e, does 'ma neb yn mynd i ddigio. Dos dag e ddim perthnase yma. Gwêd ti air bach.'
A dyma'r saer yn edrych lawr ar yr arch a dweud:
'Dyn wyt ti o wlad bell,
'Ta'r ffeirad yma, fyddet ti ddim gwell.
Gorwedd nawr 'da'r hen dade,
Pan codan nhw, cwyd dithe!' .
Recording
Mwy o wybodaeth
Tâp
AWC 2624. Recordiwyd 18.xi.1969.Nodiadau
Un o storïau niferus y teiliwr, John Griffiths, Waun Gilwern, Plwyf Pen-boyr, a adroddwyd yn Nhreala, cartref Thomas Davies yw hon: 'Wi'n cofio am John Griffiths ar 'i draed yn adrodd y stori yna'. Edrychai i fyny i'r awyr wrth ddweud y pennill a'i 'lais dipyn yn bregethwrol'. Am ragor o hanes John Griffiths, y teiliwr, a disgrifiad o'r aelwyd yn Nhreale, gw. eitem 'Ewyllys y Ffermwr a'i Dri Chyngor i'w Fab'.
Cofnodwyd mwy na hanner dwsin o fersiynau lled debyg i'r stori uchod oddi ar lafar (gw. tapiau yn AWC), ac yn arbennig yn ne orllewin Cymru. Y mae'r tair llinell olaf y pennill (cante fable) sy'n cloi'r stori bron yr un fath ymhob fersiwn. Cyfeiria llinell gyntaf y pennill at y gŵr dieithr a olchwyd i'r lan: 'Dyn du wyt ti o wlad bell ...'; 'Dyn diarth wyt ti ...', etc. Y mae cwpled clo y pennill yn bodoli hefyd yn annibynnol ar y stori, ac fe'i ceir fel beddargraff.
Teipiau
Motifs