Blodeueg Palaeosöig

Projectau presennol

Ardal o gorsydd glo Variscan Euramerica. Darlun gan C. Cleal.

Aelodau o dîm IGCP 575 yn Zagreb (2011).

  • IGCP 575 - Pennsylvanian terrestrial habitats and biotas of southeastern Euramerica. Mae'r
    Mae'r project cydweithrediadol rhyngwladol hwn, a gydlynir gan staff yr Adran Hanes Llystyfiant ac sy'n gweithredu dan nawdd UNESCO ac IUGS, yn ymchwilio i'r blodau, anifeiliaid, tirweddau a hinsoddau newidiol yn ystod diwedd y cyfnod Carbonifferaidd, gan ganolbwyntio'n benodol ar dde Ewrop a Thwrci (www.igcp575.org). Awgrymodd ymchwiliadau blaenorol i'r newidiadau llystyfiant a hinsoddol mawr a welwyd yng ngorllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru, tua 307 miliwn o flynyddoedd yn ôl gael eu sbarduno gan newidiadau yn ne-ddwyrain Ewrop. Y nod yw casglu'r dystiolaeth baleontolegol a daearegol o bob cwr o Ewrop er mwyn magu dealltwriaeth gyfannol o'r digwyddiadau ecolegol mawr yma. Yn ogystal â chydlynu'r project, mae staff yr Adran Hanes Llystyfiant yn ymwneud yn uniongyrchol ag adolygu'r blodau ffosil o Fwlgaria, Romania, Croatia a'r Eidal. Mae 50 arbenigwr o 19 gwlad yn rhan o'r tîm project.
  • Late Carboniferous floristics of Upper Silesia
    Mae Silesia Uwch mewn lleoliad canolig allweddol rhwng corsydd iseldiroedd megis de Cymru a chorsydd uwch Bohemia. Mae deall dynameg blodeuol Silesia Uwch felly yn hanfodol i adeiladu darlun cyflawn o gynefinoedd corsydd glo ar draws Ewrop. Noddir y project cydwethrediadol hwn gyda chydweithwyr yn y Weriniaeth Tsiec ac UDA gan yr Asiantaeth Grantiau Siec.

Projectau blaenorol yn y maes ymchwil hwn

Mae'r Adran wedi cydlynu dau broject rhyngwladol blaenorol yn y maes hwn. Cynhaliwyd y project cyntaf, a noddwyd gan Raglen Wyddoniaeth NATO, rhwng 2000 a 2002 gan gymharu llystyfiant diwedd y cyfnod Carbonifferaidd yn ne Cymru, Nova Scotia a Bwlgaria. Roedd yr ail broject yn fenter gydweithrediadol fwy dan nawdd Rhaglen Cydberthyniad Daearegol UNESCO (IGCP) gyda chyfraniadau gan gydweithwyr ar draws Ewrop a dwyrain Gogledd America. Y nod oedd pennu patrymau dosbarthiad manwl y biota yn ystod diwedd y cyfnod a pherthynas hyn â newidiadau yn y cynefinoedd ffisegol, gan gynnwys hinsawdd.

Cynhaliodd yr Adran ddwy ysgoloriaeth CASE yn ddiweddar, mewn partneriaeth â phrifysgolion Sheffield a Birmingham, gan ymchwilio i flodau gogledd Tsieina a Bryste yn niwedd y Cyfnod Carbonifferaidd.