Palynoleg Palaeosöig

Projectau presennol

Amrywiaeth o baill o blanhigion ucheldir diwedd y cyfnod, o ardaloedd morwrol Canada. Ffotograff gan yr Athro T. Dimitrova (Sofia).

Amrywiaeth o baill o blanhigion ucheldir diwedd y cyfnod, o ardaloedd morwrol Canada. Ffotograff gan yr Athro T. Dimitrova (Sofia).

Rydym yn cydweithio â chydweithwyr yn Academi Wyddorau Bwlgaria, Prifysgol Cape Breton a Phrifysgol Aberystwyth wrth ddatblygu'r astudiaeth o baill a sborau ffosil fel modd o gofnodi newidiadau yn llystyfiant diwedd y cyfnod Carbonifferaidd mewn cynefinoedd yr ucheldir a'r iseldir. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar Goedwig Dean, a Cape Breton.

Projectau blaenorol yn y maes ymchwil hwn

Mae'r astudiaethau hyd yn hyn wedi ymdrin â meysydd glo de Cymru, Sydney (Cape Breton) a Dobrudzha (Bwlgaria).