Monitro Paill

Mae paill yn ffynhonnell wybodaeth bwysig iawn ar gyfer botanegwyr gan ei fod yn fach ac yn medru cael ei gadw mewn niferoedd mawr am filoedd o flynyddoedd dan yr amodau cywir. Mae rhywogaethau gwahanol o blanhigion yn cynhyrchu paill sydd â golwg nodweddiadol.

Mae'r Rhaglen Monitro Paill yn brosiect rhyngwladol i gymharu llystyfiant a dyddodiad paill arwynebol mewn ystod eang o gynefinoedd. Mae'n cynnwys nifer o wyddonwyr o bob cwr o Ewrop. Nodau'r project yw cadarnhau a yw mathau cyferbyniol o lystyfiant yn cynhyrchu casgliadau paill nodweddiadol, i gymharu ardaloedd coedwigoedd a di-goed a gwella ein dehongliad o dystiolaeth llystyfiant y gorffennol. Am y tro cyntaf, mae trapiau Tauber yn cael eu defnyddio ar raddfa fawr, gan gynhyrchu mesuriadau annibynnol o dyddodiad paill ar gyfer tacsa unigol. Cesglir samplau paill yn flynyddol mewn dau safle yng Nghymru (Brechfa a Chapel Curig). Cychwynnodd y project ymchwil hwn yn 1996 ac mae'n parhau. Mae'r project yn cynhyrchu canlyniadau diddorol ac yn newid ein barn am newidiadau llystyfiant yn y gorffennol. Cynllunir cyfres o gyd-gyhoeddiadau gan gynnwys papur gyda chydweithwyr o Brifysgol Thessalonica yn edrych ar gynrychiolaeth wael o hadau Pteridium mewn samplau trap Tauber. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw casglu deunydd o safleoedd Prydeinig.