Systemeg planhigion Palaeosöig
Projectau presennol
- Medullosales.
Dyma oedd un o brif grwpiau planhigion hadau gwlypdir trofannol diwedd y cyfnod Carbonifferaidd. Yn ogystal â bod yn gyfran helaeth o fiomas y llystyfiant gwlypdir hynafol, roeddent hefyd yn hynod am gynhyrchu'r hadau mwyaf sy'n hysbys i ni, oedd weithiau dros 11cm o hyd. Roeddent hefyd yn sensitif i newidiadau amgylcheddol ac maent felly yn grŵp defnyddiol o blanhigion ar gyfer deall cynefinoedd newidiol. Mae'r gwaith yn cynnwys astudiaeth o forffoleg, anatomi a biocemeg epidermaidd y planhigion, ac yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Brifysgol Cape Breton (Sydney, Nova Scotia), yr Amgueddfa Hanes Natur (London), Arolwg Daearegol y Weriniaeth Tsiec (Praha) ac Academi Wyddorau Bwlgaria (Sofia). - Marattiales.
Roedd hwn yn grŵp pwysig o goedrhedyn yn y gwlypdiroedd yma. Yma cyfunir astudiaethau morffolegol ag astudiaethau o'r sborau a gynhyrchwyd ganddynt i adolygu systemeg y planhigion. Mae'r project yn galw am gydweithrediad rhwng rhwydwaith eang o arbenigwyr o Amgueddfa Field (Chicago), Prifysgol Cape Breton (Sydney, Nova Scotia), Academi Wyddorau'r Weriniaeth Tsiec (Praha) ac Amgueddfa Gorllewin Bohemia (Plsen).
Projectau blaenorol yn y maes ymchwil hwn
Yn ddiweddar, adolygodd yr Adran systemeg y planhigyn hadau Carbonifferaidd Eremopteris (gyda chydweithwyr o'r Amgueddfa Hanes Natur a Prifysgol Birmingham).