Casgliad Llwydni Llysnafeddog (Myxomycete)
Yn aml, caiff llwydni llysnafeddog ei grwpio gyda ffwng mewn casgliadau amgueddfeydd, a’i astudio gan fycolegwyr oherwydd ei debygrwydd arwynebol i rai ffyngau, ond nid ydyw’n rhan o deyrnas Fungi.
Mae dosbarthwyr wedi eu galw yn Brotistiaid, sy’n perthyn o bell i’r Amoeba microsgopaidd, ungell. Mae 157 rhywogaeth llwydni llysnafeddog yng nghasgliadau’r Amgueddfa (pdf yn Saesneg). Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau wedi’u casglu o Brydain, gyda rhai’n dod o rannau eraill o Ewrop ac o Ogledd America.
Ynghylch Llwydni Llysnafeddog
Gall rhai mathau o lwydni llysnafeddog wneud rhywbeth anhygoel - gallant grynhoi at ei gilydd i ffurfio cytrefi. Yn ddigon tebyg i slefrod môr, mae’r math hwn o lwydni llysnafeddog yn gasgliad o gannoedd o gelloedd bychan unigol, yn cydweithio i oroesi.
Gall pob cell symud yn annibynnol ond gallant hefyd gyfathrebu â’r gweddill trwy gyfrwng signalau cemegol i ganfod bwyd neu i atgenhedlu. Mae rhai cytrefi o lwydni llysnafeddog yn ymlusgo o gwmpas gan newid siâp wrth iddynt symud. I fwydo, maen nhw’n amlyncu bacteria microsgopaidd, ffwng, a sylweddau organig eraill.
Mae llwydni llysnafeddog yn aml yn byw mewn llefydd tamp a thywyll – er enghraifft mewn pridd neu bren pydredig. Ni fyddwn yn eu gweld tan maent yn ffurfio strwythurau i gynhyrchu sborau (oherwydd nad oes digon o faeth i gynnal y cytref, yn aml). Mae Mucilago crustacea a Fuligo septica yn ymddangos ar lawntiau, ac mae strwythurau sborau pinc crwn Llaeth y Blaidd (Lycogala terrestre) yn tyfu ar bren pydredig. Mae’r llysnafedd ‘aml-ben’, Physarum polycephalum yn gallu datrys drysfa hyd yn oed wrth chwilio am fwyd.
Storio yng nghasgliadau’r Amgueddfa
Fel sbesimenau botanegol eraill, mae’r rhan fwyaf o lwydni llysnafeddog yn cadw’n dda o gael ei sychu. Caiff y strwythurau bregus eu cadw’n ddiogel mewn blychau cadwraeth o fewn y casgliadau.
Fel y gallech ddisgwyl o grŵp mor anarferol, mae’r dosbarthiad yn amrywio. Mae technegau newydd megis dilyniannu DNA yn helpu gwyddonwyr i ddeall perthynas pob rhywogaeth a’i gilydd, neu hyd yn oed os dylai un rhywogaeth gael ei rhannu’n ddwy. Mae hyn yn arwain at newid mewn enwau gwyddonol, a gall olygu bod angen newid y drefn o fewn casgliadau’r Amgueddfa.