Gwasanaethau

Hypnum lacunosum

Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y casgliadau neu blanhigion isel yn gyffredinol. Llenwch y ffurflen adborth. I gysylltu ag aelodau staff penodol yn yr Adran Planhigion Isel, dilynwch y ddolen hon.

Mae ein herbariwm planhigion isel a’n llyfrgell fotanegol arbenigol ar agor i ymwelwyr trwy apwyntiad. Os ydych chi’n edrych am wybodaeth nad yw’n benodol i unrhyw un o adrannau’r Amgueddfa, dylech edrych ar brif dudalennau’r llyfrgell.

Rydym yn cadw archifau’n ymwneud â chasglwyr a chasgliadau o blanhigion isel yn yr Amgueddfa. Mae’r rhain yn cynnwys golwg ar fywyd gwyddonol y casglwyr botanegol sydd wedi helpu i greu’r casgliadau o blanhigion isel a welwn heddiw. Gallwch astudio’r archifau hyn trwy apwyntiad neu, mewn rhai achosion, trwy eu benthyg (gweler isod). I wneud apwyntiad, cysylltwch â Phennaeth Planhigion Isel, Ray Tangney.

Benthyciadau

Mae’r Adran Planhigion Isel yn gweithredu gwasanaeth benthyciadau rhyngwladol i sefydliadau, gan gynnwys benthyca sbesimenau. Dylai unigolion gysylltu â’u hamgueddfa neu eu prifysgol leol i hwyluso benthyciadau ar eu rhan. Gwneir eithriad ar gyfer aelodau Cymdeithas Fryolegol Prydain. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw fenthyciad os na fyddwn yn fodlon y bydd ein deunydd yn ddiogel. Dylid cyfeirio pob ymholiad am fenthyciadau at Bennaeth yr Adran, Ray Tangney. [LINK to email]

Gwasanaethau Adnabod

Mae’r adran hon, fel rhan o sefydliad a ariennir gan y cyhoedd, yn cynnig gwasanaeth adnabod am ddim yn amodol ar statws. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod y gwasanaeth hwn os bydd y cais yn afresymol e.e. rhy fawr, cymryd gormod o amser neu oherwydd diffyg arbenigedd perthnasol. Bydd yr adran yn cynnig gwasanaeth adnabod masnachol o dan gontract. Dylai darpar gleientiaid roi manylion y prosiect a gofyn i Ray Tangney am bris.

Gwirfoddoli

Rydym yn annog gwirfoddolwyr ymroddedig sydd am gael profiad o waith curadur a/neu blanhigion isel. Ychydig iawn o leoliadau sydd ar gael, ac mae angen i wirfoddolwyr allu mynychu’r adran yn rheolaidd. Cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb.

Mae Lleoliadau Profiad Gwaith i fyfyrwyr ar gael hefyd. Anfonwch ffurflen atom trwy’ch ysgol.