Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno saith planhigyn prin i chi. Byddwch yn dysgu ble maen nhw'n tyfu, sut i'w hadnabod, pa fygythiadau maen nhw'n eu hwynebu, a pha gamau rheoli a chadwraeth sydd ar y gweill i'w diogelu.
Mae'r rhywogaethau dan sylw’n cynnwys:
Cyflwynydd: Dr Ingrid Jüttner
Mae gold y môr yn berlysieuyn lluosflwydd gyda fflurgainc ben gwastad o flodau tiwbaidd melyn a dail llinol. Mae'n tyfu ar briddoedd bas dros galchfaen mewn glaswelltir agored neu mewn rhostir isel ar glogwyni arfordirol ac yn blodeuo ym mis Awst a Medi. Yng Nghymru gellir ei ddarganfod mewn cynefinoedd arfordirol ar Benrhyn Gŵyr ac yn Sir Benfro, ac ar Ben y Gogarth yn Llandudno. Oherwydd bod y rhywogaeth yn hunan-anghydnaws, mae angen poblogaethau mawr â geneteg amrywiol i gynhyrchu digon o hadau i atal ei ddirywiad. Mae'n gystadleuydd gwael ac mae angen llystyfiant byr, agored. Y bygythiadau mae’n eu hwynebu yw pori trwm a sathru, chwynladdwyr a thywydd eithafol sy'n achosi sychder. Mae camau rheoli buddiol yn cynnwys pori ysgafn i atal gorgyffwrdd gan brysgwydd, a sicrhau aflonyddwch ysgafn i greu ardaloedd agored lle gall hadau egino.
Mae crwynllys y maes yn berlysieuyn lluosflwydd sy’n tyfu mewn glaswelltir calch, twyni, machair, ar hyd llwybrau coedwigoedd, ar lethrau arfordirol a mynyddig ac ar lannau afonydd. Mae gan y fflurgainc flodau porffor-las, sydd weithiau’n wyn. Mae'r rhan fwyaf o boblogaethau yn y DU i'w gweld yn yr Alban a gogledd Lloegr. Yng Nghymru mae crwynllys y maes i'w weld ar Ynys Môn, ym Mhowys ac mewn ardaloedd arfordirol yn ne a gorllewin Cymru. Mae'n cael ei beillio gan gacwn, ond mae hefyd yn hunan-ffrwythloni. Nid yw'r hadau yn hyfyw yn y tymor hir, a heb gynefin addas ar gyfer egino, bydd y boblogaeth yn dirywio. Mae camau rheoli buddiol yn cynnwys torri glaswelltir yn yr haf a phori yn yr hydref, y ddau er mwyn atal gorgyffwrdd gan brysgwydd. Mae'n elwa o fylchau yn y glaswellt i egino.
Mae'r tegeirian llosg yn berlysieuyn lluosflwydd sy'n tyfu mewn glaswelltir calch a chalchfaen wedi'i bori, ar dywod a phriddoedd graeanog ar hyd afonydd, ac ar dwyni tywod. Mae'r pigyn blodau trwchus, siâp wy yn cynnwys nifer o flodau gyda helmed coch tywyll yn amlwg ar y top, lle mae’r blodau heb eu hagor yn rhoi'r argraff bod y pigyn wedi'i losgi. Mae gwefus y blodyn yn wyn neu'n binc golau gyda smotiau coch tywyll. Ar un adeg, roedd y tegeirian llosg i’w weld yn aml yn lleol mewn cynefinoedd addas ar briddoedd cyfoethog ledled llawer o Loegr mor bell i'r gogledd â Northumberland, ond mae wedi dirywio'n ddramatig ac mae bellach yn hynod leol. Nid yw wedi ei gofnodi yn yr Alban ac mae’n brin iawn yng Nghymru. Gall gymryd blynyddoedd lawer cyn blodeuo, yn aml mae’n blodeuo am ychydig flynyddoedd, yna'n aros mewn cyflwr tyfiannol neu ynghwsg am sawl blwyddyn, a gall ymffurfiad y ffrwythau fod yn isel. Mae hefyd yn gystadleuydd gwael. Mae bygythiadau yn cynnwys amaethyddiaeth ddwys gydag aredig, plaladdwyr, a gorbori neu bori annigonol. Dylai camau rheoli gynnwys cynnal tyweirch, byr, agored sy’n isel o ran maetholion.
Tegeirian y fign galchog yw un o’r tegeirianau prinnaf a’r un sydd fwyaf o dan fygythiad ym Mhrydain ac mae'n berlysieuyn lluosflwydd yn yr iseldir. Mae wedi dioddef dirywiad sylweddol oherwydd colli cynefinoedd, draenio tir, goresgyniad prysgwydd, ac mae bellach i'w gael mewn llawer llai o safleoedd nag o'r blaen. Mae dau fath, sy'n wahanol o ran siâp eu dail, i'w gweld yng ngwledydd Prydain ac mae’n byw mewn twyni tywod yn ne Cymru ac yng nghorstiroedd Dwyrain Anglia. Mae'n degeirian bach ac yn rhywogaeth arloesi. Mae'r blodau melyn-wyrdd yn ymddangos ym mis Mehefin a Gorffennaf ac maen nhw’n hunan-beillio. Mae gwaith cynnal a chadw, a lle bo angen, creu llaciau twyni newydd yn bwysig i gadwraeth y tegeirian yng Nghymru.
Perlysieuyn blynyddol yw gwylaeth-yr-oen llydanffrwyth sydd wedi dirywio ers canol yr 20fed ganrif oherwydd ffermio mwy dwys a defnyddio cnydau mwy cystadleuol. Ni all dyfu'n iawn gyda llystyfiant trwchus a thal o'i amgylch. Yng Nghymru cafodd y rhywogaeth ei gweld ddiwethaf yn 2009. Mae ganddo flodau gwyn bach, i’w gweld mewn caeau amaethyddol a reolir yn helaeth ym mis Mehefin - Awst. Mae gan yr wylaeth hadau hirhoedlog a phan fydd amodau'n addas ar ôl gwaith rheoli buddiol, gall ailymddangos, er y gall hyn fod yn afreolaidd ei natur.
Mae crafanc-y-frân dridarn yn berlysieuyn blynyddol neu luosflwydd sy'n byw mewn dŵr bas, yn aml dros dro. Mae i'w weld yn hinsawdd mwyn, gwlyb ardaloedd yr Iwerydd gyda phoblogaethau yng Nghymru a de Lloegr yn cynrychioli cyfran bwysig o’r poblogaethau byd-eang. Mae'n blanhigyn isddŵr gyda blodau gwyn bach a dail wedi'u rhannu'n 3 llabed. Fel arfer mae'n flodyn unflwydd gaeaf sy'n blodeuo’n gynnar yn y flwyddyn ac sy’n hoffi pyllau dros dro, bas sy'n cael llifogydd yn y gaeaf ond a allai sychu yn yr haf. Mae'n gystadleuydd gwael ac mae angen cynefinoedd agored, lefelau dŵr amrywiol a rhywfaint o aflonyddwch naill ai drwy bori, potsio neu draffig.
Mae'r fioled welw yn berlysieuyn lluosflwydd gyda blodau fioled gwyn i fioled ysgafn sy'n tyfu mewn cynefinoedd agored o rostir wedi'u draenio'n dda, ac yn aml ger yr arfordir yng Nghymru a de Lloegr oherwydd nad yw'n goddef rhew difrifol. Mae'n gystadleuydd gwael ac ni all ddioddef cysgod ac felly mae'n elwa o amodau amrywiol gyda thir agored noeth, sych. Mae'n meddiannu tir wedi'i losgi neu aflonyddu ond mae angen amser i ymsefydlu. Mae'n cymysgrywio â fioledau eraill a gall y hybridau egnïol yn aml arwain at ei ddirywiad. Gall camau rheoli buddiol fel diogelu’r rhostir, pori traddodiadol, clirio prysgwydd a llosgi dan reolaeth helpu i ailsefydlu poblogaethau'r fioled brin hon.